Neidio i'r cynnwys

Gwaun Cwm Garw

Oddi ar Wicipedia
Gwaun Cwm Garw
Enghraifft o:gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
Awdurcyfieithiad Sharon Morgan o waith Moisés Kaufman
Cyhoeddwrheb ei chyhoeddi yn Gymraeg
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Genredocumentary theatre Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afDenver Center for the Performing Arts Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af2000 Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithLaramie Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/02n_b8 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Addasiad gan Sharon Morgan o'r ddrama The Laramie Project gan Moisés Kaufman yw Gwaun Cwm Garw. Mae'r ddrama wreiddiol yn ymwneud â llofruddiaeth Matthew Shepard yn Laramie, Wyoming ym 1998, llofruddiaeth a gymhellwyd gan homoffobia mae'n debyg. Cynhaliodd Cwmni Theatr Tectonic dros 200 o gyfweliadau â thrigolion Laramie wrth i'r ddrama cael ei hysgrifennu, ac mae dyddiaduron aelodau'r cwmni a gohebiadau a ymddangosodd yn y wasg yn ymddangos yn y ddrama yn ogystal.

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]

Mae dros 50 o gymeriadau yn y ddrama wreiddiol, sy'n cynnwys enwau aelodau o'r cwmni drama fu'n cynnal yr holl gyfweliadau.

Cymeriadau gwreiddiol Kaufman Cymeriadau addasiad Sharon Morgan Disgrifiad
Sherry Aanenson lletywraig Russell Henderson
Anonymus Ffrind anhysbys cyfaill anhysbus Aaron McKinney
Bailiff
Baptist Minister Gweinidog y Bedyddwyr
Baptist Minister's Wife
Stephen Belber aelod o'r cwmni drama
Dr Cantway Dr Curig meddyg yn yr ysbyty
Catherine Connolly athrawes lesbiaidd agored
Murdock Cooper
Robe DeBree ditectif
Kerry Drake newyddiadurwraig
Philip Dubois newyddiadurwr
Tiffany Edwards newyddiadurwraig lleol
Ysgrifennydd yr e-bost
Gil & Eileen Engen
Reggie Fluty Ruby Williams plismones
Leigh Fondakowski aelod o'r cwmni drama
Matt Galloway Micky Rowlands gweithiwr yn y bar
Governor Jim Geringer llywodraethwr
Andrew Gomez
Amanda Gronich aelod o'r cwmni drama
Russell Henderson Wayne Hughes un o'r drwgweithredwyr
Rebecca Hilliker pennaeth drama
Sergeant Hing Sarjant Harris ditectif
Jen cyfaill Aaron McKinney
Sherry Johnson Cheryl Jones gweinyddydd
Stephen Mead Johnson gweinidog
Jurors & Foreperson Barnwr a Clerc y Llys
Moisés Kaufman aelod o'r cwmni drama
Aaron Kreifels myfyriwr
Phil Labrie cyfaill Matthew Shepard
Doug Laws arweinydd Mormoniaid
Jeffrey Lockwood un o gymdogion
Aaron McKinney Andy King un o'r drwgweithredwyr
Bill McKinney Tony King tad Aaron McKinney
Alison Mears gwirfoddolwraig
Media / newspaper people
Matt Mickelson Meic Mitchell perchenog Fireside
Conrad Miller Conrad Morse mecanic
Mormon home teacher athro
Marge Murray Marj Mainwaring mam Reggie Fluty
Doc O'Connor Doc O'Riley gyrrwr
Andy Paris aelod o'r cwmni drama
Romaine Patterson lesbian
Jon Peacock cynghorydd addysgiadol
Reverend Fred Phelps gweinidog
Greg Pierotti aelod o'r cwmni drama
Barbara Pitts aelod o'r cwmni drama
Kristin Price Kirsty Price cariad Aaron McKinney
Priest at the funeral
Cal Rerucha Erlynydd twrnai erlynnol
Zackie Salmon gweinyddydd
Father Roger Schmit Offeiriad offeiriad Catholig
Jedadiah Schultz myfyriwr
Shadow DJ
Shannon cyfaill Aaron McKinney
Dennis Shepard Dennis Shep tad Matthew Shepard
April Silva myfyriwr deurywiol
Jonas Slonaker dyn hoyw
Rulon Stacey Pennaeth yr Ysbyty
Trish Steger chwaer Romaine Patterson
Lucy Thompson nain Russell Henderson
Zubaida Ula Zubida Ala dynes Mwslim
Waitress (Debbie Reynolds)
Harry Woods un o drigolion y pentref
Judi Shepard

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Ar y 7 Hydref 1998, daethpwyd o hyd i fachgen ifanc hoyw wedi’i glymu i ffens, yn y bryniau tu allan i dref Laramie yn nhalaith Wyoming yn yr Unol Dalieithau. Roedd Matthew Shepard wedi’i glymu a’i guro’n ddidrugaredd, ac wedi’i adael yno i farw mewn gweithred o drais a ddychrynodd cenedl gyfan. Cafodd y digwyddiad effaith mawr ar y dramodydd a’r cyfarwyddwr Moisés Kaufman a’i gyd aelodau o Brosicet Theatr Tectonic. Bu’r cwmni yn ymweld â Laramie chwe gwaith dros gyfnod o flwyddyn a hanner yn dilyn y llofruddiaeth gan gynnal dros 200 o gyfweliadau gyda thrigolion y dref. Trwy ddefnyddio’r cyfweliadau yma ynghyd ag ymateb personol a gonest aelodau’r cwmni, aethpwyd ati i lunio’r ddrama The Laramie Project sy’n adrodd hanes y dref a’i thrigolion, flwyddyn wedi’r llofruddiaeth. Trwy ddefnyddio 8 actor i bortreadu dros 60 o leisiau, mae’r canlyniad yn agoriad llygad trawiadol a dramatig ynglŷn ag ymateb cymuned gyfan tuag at lofruddiaeth gŵr ifanc hoyw.[1]

Addasiad Cymraeg

[golygu | golygu cod]

Addaswyd y ddrama i'r Gymraeg gan Sharon Morgan, a'i hadleoli i gymuned wledig yng Nghymru, "mewn tre golegol sy’n atgoffa rhywun o Gaerfyrddin - er nad oes enw yn cael ei grybwyll", yn ôl adolygydd theatr Y Cymro.[1] Mae’r Waun sy’n rhoi’r teitl i’r ddrama ar gyrion y dref, a’i thrigolion yn gymysgfa o ffermwyr, academyddion, darlithwyr, myfyrwyr a sawl sect grefyddol. Cadwyd enw'r llanc gwreiddiol, Matthew Shepard, ac yn ystod y ddrama, cawn ein cyflwyno i’r heddlu lleol, i gyfeillion a chydnabod Matthew, i’r ddau lofrydd "Andy King" a "Wayne Hughes", i’r meddygon, newyddiadurwyr, cyfreithwyr a llu o drigolion eraill.[1]

Nododd Sharon yn rhaglen cynhyrchiad Theatr Bara Caws yn 2007 mai "Cwestiwn Moisés Kauffman wrth benderfynu mynd ati i greu'r ddrama yma oedd 'Sut gallwn ni sy'n gweithio yn y theatr ymateb? Ac yn bwysicach, oes modd i'r theatr gyfrannu i'r ddeialog genedlaethol ar faterion cyfoes?' Yn fy nhyb i mae'n holl bwysig, mae'n gwbl bosib, mae'n rhan o'n cyfrifoldeb, ac yn weithred angenrheidiol - gwae ni os torrwn ni'r theatr yn arena sy'n cadarnhau ein rhagdybiaethau, yn cyfiawnhau ein rhagfarnau, sy'n ein suo i drwmgwsg gyda'r un hen hwiangerddi".[2]

Yn anffodus, ni chafodd yr addasiad Cymraeg ei chyhoeddi, hyd yma.

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]
Rhaglen cynhyrchiad Theatr Bara Caws 2007

Llwyfannwyd yr addasiad Cymraeg am y tro cyntaf gan Theatr Bara Caws yn 2007 i ddathlu penblwydd y cwmni yn 30 oed. Nododd Sharon Morgan ei bod hi a chyfarwyddydd y cynhyrchiad Catrin Edwards "...ym mherfformiad cynta Bara Caws yn Eisteddfod Wrecsam 1977" wrth i'r cwmni newydd greu y sioe Croeso i'r Roial.[2] "O'n ni am newid y byd - a'r theatr yng Nghymru", noda Sharon wrth gofio'r cynhyrchiad cynta Bara Caws, "Ein bwriad oedd adlewyrchu realiti cymdeithasol a gwleidyddol cymunedau Cymraeg mewn ffordd ddifyr; o'n ni ishe creu trafodaeth, taflu goleuni a lleisio gofidiau. Ac mae Gwaun Cwm Garw'n torri'r un gwys."[2] Actorion y cynhyrchiad yn 2007 oedd Ifan Huw Dafydd, Rhodri Evan, Jonathan Nefydd, Geraint Pickard, Maria Pride a Delyth Wyn. Cynllunydd Emyr Morris-Jones, sain Berwyn Morris-Jones, goleuo Iestyn Griffiths, gwisgoedd Jilly Thornley.[2]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 3 "Paul Griffiths". paulpesda.blogspot.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-09-24.
  2. 1 2 3 4 Rhaglen Gwaun Cwm Garw. Theatr Bara Caws. 2007.