Matilde Huici

Oddi ar Wicipedia
Matilde Huici
Ganwyd3 Awst 1890 Edit this on Wikidata
Pamplona Edit this on Wikidata
Bu farw13 Ebrill 1965 Edit this on Wikidata
Santiago de Chile Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Sbaen Sbaen
Alma mater
  • Prifysgol Complutense Madrid Edit this on Wikidata
Galwedigaethaddysgwr, athro ysgol, cyfreithiwr, swffragét Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Sosialaidd Gweithwyr Sbaen Edit this on Wikidata
llofnod

Ffeminist o Sbaen oedd Matilde Huici Navaz (3 Awst 1890 - 13 Ebrill 1965) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel addysgwr, athro ysgol a chyfreithiwr.

Fe'i ganed yn Pamplona, Navarra, Sbaen a bu farw yn Santiago de Chile, prifddinas Chile.[1][2][3][4]

Cydweithiodd gyda María de Maeztu yn y Residencia de Señoritas, y ganolfan swyddogol gyntaf yn Sbaen a sefydlwyd i hyrwyddo addysg prifysgol i fenywod, a'r Lyceum Club Femenino, cymdeithas i fenywod.[5] Yn 1928, cyd-sefydlodd Gymdeithas Menywod Prifysgolion Sbaen (gyda Victoria Kent a Clara Campoamor) a chynrychiolodd Sbaen ar Gomisiwn Ymgynghorol ar Faterion Cymdeithasol a Dyngarol Cynghrair y Cenhedloedd.[6] Yn 1940 fe'i halltudiwyd i Chile, ac yn 1944 sefydlodd Huici Ysgol yr Addysgwr Párvulos, Prifysgol Chile a datblygodd raglen o weithgareddau addysgol dwys.[7][8]

Magwraeth a gwaith cynnar[golygu | golygu cod]

Hi oedd y trydydd allan o bedwar o blant yn nheulu Ascensión a Juan Huici. Roedd ei rhieni yn weriniaethwyr rhyddfrydol cyfoethog. Yn 17 oed, cafodd radd meistr mewn addysg uwch yn Bilbao, Gwlad y Basg.

Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Sosialaidd Gweithwyr Sbaen.

Yn 1909, cafodd ei chyflogi fel athrawes mewn ysgol yng nghymdogaeth Ategorrieta o Donostia (Sbaeneg: San Sebastián). Ddwy flynedd yn ddiweddarach, fe'i penodwyd yn brifathrawes yr ysgol. Yn 1916, symudodd i Fadrid er mwyn ymuno â'r Residencia de Señoritas lle dysgodd siarad Saesneg a Ffrangeg, yn ogystal â thechnegau llaw-fer. Dair blynedd yn ddiweddarach, graddiodd Huici yn yr Ysgol Addysg Uwch a dechreuodd astudio'r gyfraith. Yn 1922, daeth Huici yn Arolygydd Addysg Gynradd yn Santa Cruz de Tenerife.[5][9]

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Lyceum Club Femenino am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyffredinol: https://catalogue.bnf.fr/ark:/12148/cb165496622. ffeil awdurdod y BnF. dynodwr BnF: 165496622. dyddiad cyrchiad: 23 Rhagfyr 2018.
  2. Rhyw: https://catalogue.bnf.fr/ark:/12148/cb165496622. ffeil awdurdod y BnF. dynodwr BnF: 165496622. dyddiad cyrchiad: 23 Rhagfyr 2018.
  3. Dyddiad geni: "Matilde Huici". ffeil awdurdod y BnF.
  4. Dyddiad marw: "Matilde Huici". ffeil awdurdod y BnF.
  5. 5.0 5.1 "Exposición - Mujeres en vanguardia. La Residencia de Señoritas en su centenario (1915-1936)". www.residencia.csic.es.
  6. Navarra, Universidad Pública de. "Universidad Pública de Navarra - Campus de Excelencia Internacional". www.unavarra.es.
  7. Iglesias, Fundación Pablo. "Huici Navaz de San Martín, Matilde - Fundación Pablo Iglesias". www.fpabloiglesias.es.
  8. "EL FEMINISMO Y EL ELEMENTO FEMENINO EN EL PENSAMIENTO DEL JURISTA ÁNGEL OSSORIO Y GALLARDO (1873-1946)". www.eumed.net.
  9. Vázquez Ramil, 2012, t. 103