Mary Myfanwy Wood

Oddi ar Wicipedia
Mary Myfanwy Wood
Ganwyd16 Medi 1882 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw22 Ionawr 1967 Edit this on Wikidata
Shoreham-by-Sea, Shoreham Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethpennaeth, cenhadwr Edit this on Wikidata

Roedd Mary Myfanwy Wood (16 Medi 1882 - 22 Ionawr, 1967) yn gennad Cristionogol yn Tsieina rhwng 1908 a 1951[1].

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Wood yn Llundain yn ferch i Richard Maldwyn Wood, gwerthwr paent, a Hannah ei wraig. Roedd y tad yn un o Fachynlleth a'r fam o Abertawe,[2] y ddau yn Gymry Cymraeg ac yn aelodau o Gapel Annibynnol Cymraeg y Boro yn Southwark, Llundain; ymunodd Mary, ei ddau frawd a'i chware a'r un capel yn ddiweddarach[3]

Cafodd ei haddysgu mewn ysgol yn Dulwich lle bu'n ddisgybl-athrawes cyn mynd ymlaen i Goleg St Mary, Cheltenham i gwblhau ei hyfforddiant fel athrawes. Ymunodd â Mudiad Cristionogol y Myfyrwyr a daeth o dan ddylanwad y pregethwr efengylaidd y Parch Dr William Boothby Selbie a phenderfynnodd ymuno â Chymdeithas Cenhadol Llundain (LMS)

Ar ôl darfod ei hyfforddiant aeth i ddysgu mewn ysgol gynradd yn Herne Hill, Llundain; wrth ddysgu bu'n dilyn cyrsiau allanol o Goleg Kings, Llundain byddai'n ei chymhwyso ar gyfer gwaith y genhadaeth dramor.

Cenhadaeth[golygu | golygu cod]

Ym 1908 moriodd Wood i Tsieina lle fu'n gweithio fel athrawes mewn ysgol breswyl yn nhalaith Xiochang yng ngogledd Tsieina. Ym 1915 dychwelodd i wledydd Prydain a bu'n dilyn cwrs am flwyddyn yng Ngholeg Selbie Rhydychen. Ym 1916 cafodd ei phenodi'n brifathrawes ysgol ganolradd i ferched yn Beijing. Roedd ei chyfraniad i addysg merched yn sylweddol a chafodd ei phenodi i Gyngor Ymgynghorol y wladwriaeth ar addysg i fenywod.

Roedd Wood yn aelod blaenllaw o fudiad Tsieina i Grist gan gael ei phenodi'n islywydd ym 1920, ond ymddiswyddodd ar ôl cyfnod byr er mwyn caniatáu i frodor o Tsieina i gyflawni'r swydd. Ym 1922 trefnodd Gynhadledd Gristionogol Tsieina.[4]

Ym 1926 cafodd Wood ei phenodi'n darlithydd ym Mhrifysgol Yenching gan gael ei dyrchafu'n bennaeth yr adran astudiaethau crefyddol.

Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd dychwelodd i Lundain i ofalu am ei rhieni oedrannus rhwng 1940 a 1943. Oherwydd ei gwybodaeth am Tsieina a'i iaith bu'n gweithio i awdurdodau Prydain, yn monitro newyddion o'r wlad ac yn darlithio i swyddogion milwrol am y wlad.

Ar ddiwedd y rhyfel aeth i'r India am ychydig fisoedd i weithio gyda Chymdeithas Gristionogol y Gwŷr Ifanc (YMCA) yn cynorthwyo merched milwrol,[5] cyn mynd yn ôl i ogledd Tsieina i drefnu synod (cyfarfod cyffredinol) Eglwys Crist yn Tsieina.

Ymddeolodd o'r LMS ym 1948 ond parhaodd i ddarlithio yn Yenching, cyn mynd ymlaen i ddarlithio yn Ysgol Diwinyddiaeth Prifysgol Cheloo, yn Jinan.

Erbyn 1951 roedd Llywodraeth Comiwnyddol Tsieina yn troi'n fwyfwy amheus o dramorwyr a bu'n rhaid i Wood ymadael.

Bywyd diweddarach[golygu | golygu cod]

Rhwng 1952 a 1954 bu Wood yn gweithio i Gyngor Eglwysi Prydain. Ym 1954 cafodd ei hordeinio yn weinidog a bu'n gwasanaethu capel yr Annibynwyr yn Hambleden, Swydd Buckingham. Ym 1962 derbyniodd MA er anrhydedd gan Brifysgol Cymru.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Ymddeolodd Wood o'r weinidogaeth ym 1962 yn 80 mlwydd oed a symud i gartref henoed ar gyfer cyn-genhadon. Bu farw yn Ysbyty Southend ym 1967 ac amlosgwyd ei chorff yn Brighton cyn cynnal gwasanaeth coffa iddi yn Eglwys y Boro.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]