Martyn Day

Oddi ar Wicipedia
Martyn Day AS
Martyn Day


Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2015 – Mai 2020
Rhagflaenydd Michael Connarty

Geni (1971-03-26) 26 Mawrth 1971 (52 oed)
Falkirk, Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Linlithgow a Dwyrain Falkirk
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Galwedigaeth Gwleidydd
Gwefan http://www.snp.org/

Gwleidydd o'r Alban yw Martyn Day (ganwyd 26 Mawrth 1971) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Linlithgow a Dwyrain Falkirk; mae'r etholaeth yn siroedd Falkirk a Gorllewin Lothian yn yr Alban. Mae Martyn Day yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

Fe'i ganed yn Falkirk yn 1971 cyn symud i Linlithgow lle cafodd ei fagu a ble mae'n byw hyd heddiw.

Etholiad 2015[golygu | golygu cod]

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[1][2] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Martyn Day 32055 o bleidleisiau, sef 52% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +26.6 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 12934 pleidlais.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]