Mark E. Smith
Mark E. Smith | |
---|---|
Ganwyd | Mark Edward Smith 5 Mawrth 1957 Salford |
Bu farw | 24 Ionawr 2018 o canser yr ysgyfaint, canser yr arennau Prestwich |
Label recordio | Rough Trade Records |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, awdur geiriau, cyfansoddwr caneuon, bardd, actor, canwr-gyfansoddwr, artist recordio |
Arddull | ôl-pync, roc amgen, art punk, cerddoriaeth arbrofol, spoken word, cerddoriaeth y byd |
Plaid Wleidyddol | Socialist Workers Party |
Priod | Elena Poulou, Brix Smith |
Roedd Mark Edward Smith (5 Mawrth 1957 – 24 Ionawr 2018) yn ganwr ac ysgrifennwr o Fanceinion, yn brif ganwr ac unig aelod cyson o'r grŵp post-punk The Fall rhwng 1976 a 2018.
Roedd Smith yn enwog am ei steil sinigaidd a hiwmor eironig, acen gref Fanceinion ac yn ymddangos i beidio ag ymddiddori yn enwogrwydd neu sglein y byd pop.
Ganwyd Smith i deulu dosbarth gweithiol yn Salford gyda’r teulu wedyn yn symud i fyw yn ardal Prestwich gerllaw.
Gadawodd yr ysgol yn 16 oed i weithio fel clerc yn y dociau ond yn cymryd dosbarthiadau nos lefel-A yn llenyddiaeth Saesneg.
The Fall
[golygu | golygu cod]Ffurfiwyd The Fall yn Prestwich ym 1976 ar ôl i Smith cael ei ysbrydoli gan gig Sex Pistols ym Manceinion – yr aelodau gwreiddiol yn Mark E Smith, Martin Bramah, Una Baines a Tony Friel.[1]
Er i Smith ymddangos ar olwg cyntaf i fod yn iob di-addysg, roedd Smith yn wybodus iawn am sawl agweddau o lenyddiaeth a chelfyddydau. Cymerwyd enw'r band o lyfr Albert Camus The Fall. Roedd yn hoff o waith y cyfansoddwr Almaenig Karlheinz Stockhausen a dylanwadwyd ei sŵn gan fandiau avant-garde megis Can, Velvet Underground, Captain Beefheart ac The Monks.[2]
Dros 40 o flynyddoedd cafodd The Fall mwy na 60 o aelodau gwahanol, wrth i Smith ddod yn enwog am fod yn benstiff gan ddiswyddo cerddorion trwy’r amser.
Gadawyd un aelod yn Awstralia, y band yn symud ymlaen i'w gigs nesaf yn Japan gan ei adael heb ffordd i fynd adref.[3]. Credir i Smith rhoi’r sac i beiriannydd stiwdio am feiddio ofyn am salad.
Roedd cyflwynydd BBC radio Marc Riley yn aelod o’r Fall rhwng 1978 a 1983 cyn iddo hefyd cael y sac.
Dywedodd Smith: Os mae’n fi a dy nain ar bongos – The Fall ydi o [4]
Rhwng 1979 a 2017 The Fall rhyddhawyd dros 32 o recordiau hir stiwdio, eu steil yn hynod o gyson dros y degawdau er gwaethaf yr holl newidiadau mewn cerddorion.
Roedd John Peel yn gefnogwr brwd y band gan chwarae eu recordiau’n o hyd ar ei raglen radio hwyr y nos. Recordiodd The Fall 24 o sesiynau i raglen Peel, mwy nag unrhyw fand arall.[5]
Ar y cyfan roedd poblogrwydd The Fall yn gyfyngedig i ddilyniant 'cult' brwd. Er cafodd y band beth lwyddiant masnachol ar ddiwedd y 1980au, y caneuon Telephone Thing, Hit The North a Ghost in My House yn cyrraedd y siartiau sengl. Serch hynny gwrthododd Smith ymddangos ar raglen Top of the Pops.[6][7]
Recordiau hir stiwdio
[golygu | golygu cod]Rhyddhawyd nifer o recordiau o berfformiadau fyw'r band hefyd - er i Mark E Smith fod yn anfodlon ar eu rhyddhau.[8]
- Live at the Witch Trials (1979)
- Dragnet (1979)
- Grotesque (1980)
- Hex Enduction Hour (1982)
- Room to Live (1982)
- Perverted by Language (1983)
- The Wonderful and Frightening World Of... (1984)
- This Nation's Saving Grace (1985)
- Bend Sinister (1986)
- The Frenz Experiment (1988)
- I Am Kurious Oranj (1988)
- Extricate (1990)
- Shift-Work (1991)
- Code: Selfish (1992)
- The Infotainment Scan (1993)
- Middle Class Revolt (1994)
- Cerebral Caustic (1995)
- The Light User Syndrome (1996)
- Levitate (1997)
- The Marshall Suite (1999)
- The Unutterable (2000)
- Are You Are Missing Winner (2001)
- The Real New Fall LP (Formerly Country on the Click) (2003)
- Fall Heads Roll (2005)
- Reformation Post TLC (2007)
- Imperial Wax Solvent (2008)
- Your Future Our Clutter (2010)
- Ersatz GB (2011)
- Re-Mit (2013)
- Sub-Lingual Tablet (2015)[9]
- New Facts Emerge (2017)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Walters, Sarah. "Four Manchester bands we owe to the Sex Pistols' Lesser Free Trade Hall gig 40 years ago". Manchester Evening News, 3 Mehefin 2016. Adalwyd 24 Ionawr 2018
- ↑ Reynolds, Simon (2006). Rip It Up and Start Again: Postpunk 1978–1984. Faber and Faber. ISBN 978-0-571-21570-6.
- ↑ Tudalen 107. The Fallen: Life In and Out of Britain's Most Insane Group Awdur Dave Simpson
- ↑ If it's me and yer granny on bongos, it's the Fall https://www.brainyquote.com/quotes/mark_e_smith_555962
- ↑ https://en.wikipedia.org/wiki/The_Fall:_The_Complete_Peel_Sessions_1978%E2%80%932004
- ↑ Mark E Smith: British rock's cult hero". BBC, 24 Ionawr 2018. Adalwyd 24 Ionawr 2018
- ↑ "Mark E. Smith: Dead at 60 Archifwyd 2018-01-25 yn y Peiriant Wayback. Getintothis.co.uk, 24 Ionawr 2018. Adalwyd 24 Ionawr 2018
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-11-28. Cyrchwyd 2018-01-26.
- ↑ "News | The Fall Announce Sub-Lingual Tablet". The Quietus. Cyrchwyd 2015-07-17.