Marianne Moore

Oddi ar Wicipedia
Marianne Moore
Ganwyd15 Tachwedd 1887 Edit this on Wikidata
Kirkwood, Missouri Edit this on Wikidata
Bu farw5 Chwefror 1972 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, awdur ysgrifau, cyfieithydd, beirniad llenyddol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • New York Public Library Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
MamMary Warner Moore Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Bollingen, Gwobr Pulitzer am Farddoniaeth, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Cymrodoriaeth Academi Beirdd America, Shelley Memorial Award, Gwobr Cenedlaethol y Llyfr Edit this on Wikidata

Awdures Americanaidd oedd Marianne Moore (15 Tachwedd 1887 - 5 Chwefror 1972) sy'n cael ei hystyried yn bennaf nodigedig am ei gwaith fel bardd, awdur ysgrifau a chyfieithydd. Mae doniolwch ac eironi'n nadreddu drwy ei cherddi. Bu'n aelod o Blaid Weriniaethol.

Fe'i ganed yn Kirkwood, Missouri ar 15 Tachwedd 1887, bu farw yn Ninas Efrog Newydd ac yno y'i claddwyd ym Mynwent Evergreen.[1][2][3][4][5]

Magwareth[golygu | golygu cod]

Ganwyd Moore yn Kirkwood, Missouri, yn nhŷ-capel yr Eglwys Bresbyteraidd lle roedd ei thaid mamol, John Riddle Warner, yn weinidog. Dioddefodd ei thad, John Milton Moore, peiriannydd a dyfeisiwr, gyfnod seicotig, ac o ganlyniad roedd ei rhieni wedi gwahanu cyn iddi gael ei geni. Ni chyfarfu Moore a'i thad erioed. Cafodd ei mab hynaf, John Warner Moore, ei magu gan eu mam, Mary Warner Moore. Ysgrifennodd y teulu lythyrau swmpus at ei gilydd drwy gydol eu hoes, yn aml gan gyfeirio at ei gilydd gyda llysenwau chwareus a thrwy iaith breifat.

Fel ei mam a'i brawd hŷn, arhosodd Moore yn Gristion ymroddedig, a ddylanwadwyd arni'n gryf gan ei thad-cu; trodd at ei ffydd Gristnogol yn aml, yn enwedig mewn cyfyngder a themtasiwn; mae ei cherddi yn aml yn delio â themâu cryfder ac adfyd.[6]

Ar ôl i'w thaid farw yn 1894, arhosodd y tri gyda pherthnasau ger Pittsburgh am ddwy flynedd, ac yna symudodd i Carlisle, Pennsylvania, lle cyflogwyd ei mam yn dysgu Saesneg mewn ysgol ferched breifat.

Coleg Bryn Mawr[golygu | golygu cod]

Ymunodd Moore â Choleg Bryn Mawr ym 1905 yn nhalaith Pennsylvania, coleg i ferched a gaiff ei ddisgrifio fel "coleg y celfyddydau rhyddfrydol". Graddiodd yn 1909 mewn hanes, economeg a gwyddoniaeth wleidyddol.[7] Ymhlith ei chyfoedion yn ystod ei gyntaf roedd Hilda "H.D." Doolittle. Ym Mryn Mawr, dechreuodd Moore ysgrifennu straeon byrion a cherddi ar gyfer Tipyn O Bob,[8][9] cylchgrawn llenyddol y coleg, a phenderfynodd ddod yn awdur. Ar ôl graddio, gweithiodd yn fyr yn Melvil Dewey's Lake Placid Club, ac yna dysgodd bynciau busnes yn Ysgol Ddiwydiannol Indiaidd, Carlisle o 1911 i 1914.

Y bardd[golygu | golygu cod]

Ymddangosodd cerddi Moore, fel cyhoeddiad proffesiynol, yn gyntaf dan y teitl, The Egoist a Poetry, yng ngwanwyn 1915.

Ym 1916, symudodd Moore gyda'i mam i Chatham, New Jersey, o fewn taith hwylus i Manhattan. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, symudodd y ddwy i Greenwich Village, Dinas Efrog Newydd, lle roedd Moore yn cymdeithasu â nifer o artistiaid avant-garde, yn enwedig y rhai sy'n gysylltiedig â'r cylchgrawn Other. Cafodd y cerddi arloesol yr oedd yn eu hysgrifennu bryd hynny ganmoliaeth uchel gan Ezra Pound, William Carlos Williams, H.D, T. S. Eliot, ac yn ddiweddarach, Wallace Stevens.

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Academi Celf a Gwyddoniaeth America am rai blynyddoedd. [10][11][12]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cymrodoriaeth Guggenheim (1945), Gwobr Bollingen (1951), Gwobr Pulitzer am Farddoniaeth (1952), Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America (1962), Cymrodoriaeth Academi Beirdd America (1965), Shelley Memorial Award (1941), Gwobr Cenedlaethol y Llyfr (1952)[13][14][15][16][17][18][19] .

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12034369t. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_252. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
  3. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014
  4. Dyddiad geni: http://bollingen.yale.edu/poet/marianne-moore. dyddiad cyrchiad: 4 Medi 2016. "Marianne Moore". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marianne Moore". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marianne Moore". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marianne Craig Moore". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marianne Craig Moore". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marianne Moore". "Marianne Craig Moore". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  5. Dyddiad marw: "Marianne Moore". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marianne Moore". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marianne Moore". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marianne Craig Moore". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marianne Craig Moore". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marianne Moore". "Marianne Craig Moore". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  6. Molesworth, Charles. Introduction. Marianne Moore: A Literary Life. New York: Macmillan, 1990. ISBN 0689118155
  7. Leavell, Linda. Holding On Upside Down: The Life and Work of Marianne Moore. New York: Farrar Straus and Giroux, 2014. ISBN 9780374534943
  8. Fel y gwelir o'r erthygl ganlynol, credai'r myfyrwyr mai ystyr Tipyn o'Bob oedd Tipyn O’Bob (Welsh, meaning "a little bit of everyone"); cyhoeddwyd yn Main Line Times; Kathy O’Loughlin; Main Line Media News, 2 Mawrth 2012. Archifwyd 2019-05-30 yn y Peiriant Wayback.
  9. https://archive.org/stream/lantern1619stud#page/n251/mode/2up/search/marianne+moore |Tipyn O'Bob at Internet Archive
  10. Alma mater: http://bollingen.yale.edu/poet/marianne-moore. dyddiad cyrchiad: 4 Medi 2016.
  11. Galwedigaeth: http://bollingen.yale.edu/poet/marianne-moore. dyddiad cyrchiad: 4 Medi 2016. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 15 Rhagfyr 2022.
  12. Anrhydeddau: https://www.gf.org/fellows/all-fellows/marianne-moore/. http://bollingen.yale.edu/poet/marianne-moore. dyddiad cyrchiad: 4 Medi 2016. https://www.pulitzer.org/winners/marianne-moore. https://www.macdowellcolony.org/artists/marianne-moore. https://web.archive.org/web/20150315043417/https://poets.org/academy-american-poets/prizes/academy-american-poets-fellowship. https://psa.fcny.org/psa/awards/frost_and_shelley/shelley_winners/. https://www.nationalbook.org/awards-prizes/national-book-awards-1952/.
  13. https://www.gf.org/fellows/all-fellows/marianne-moore/.
  14. http://bollingen.yale.edu/poet/marianne-moore. dyddiad cyrchiad: 4 Medi 2016.
  15. https://www.pulitzer.org/winners/marianne-moore.
  16. https://www.macdowellcolony.org/artists/marianne-moore.
  17. https://web.archive.org/web/20150315043417/https://poets.org/academy-american-poets/prizes/academy-american-poets-fellowship.
  18. https://psa.fcny.org/psa/awards/frost_and_shelley/shelley_winners/.
  19. https://www.nationalbook.org/awards-prizes/national-book-awards-1952/.