Marianna Madia

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Marianna Madia
Marianna Madia


Gweinidog dros Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Symleiddio
Deiliad
Cymryd y swydd
21 Chwefror 2014
Rhagflaenydd Gianpiero D'Alia

Geni 5 Medi 1980
Rhufain, Lazio
Priod Mario Gianani

Y Gweinidog dros Weinyddiaeth Gyhoeddus a Symleiddio'r Eidal ydy Marianna Madia (ganwyd Maria Anna, 5 Medi 1980)[1] a benwyd i'r swydd ar 21 Chwefror 2014, i Gabined Matteo Renzi.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganwyd yn Rhufain, ble roedd ei thad, Stefano Madia, yn actor a newyddiadurwr. Ym Mehefin 2013 priododd Mario Gianani, cynhyrchydd ffilm.

Astudiodd Marianna yn Lycée Français Chateaubriand yn Rhufain a graddiodd yn y Gwyddorau Gwleidyddol gan arbenigo yn y pwnc yn y Sefydliad IMT Astudiaethau Uwch yn Lucca[2].

Ym Mehefin 2013 priododd y cynhyrchydd teledu Mario Gianani,[3] ac mae ganddynt ddau blentyn: Francesco a Marggherita, a aned 8 Ebrill 2014[4].

Y gwleidydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae hi hefyd yn aelod o Blaid Ddemocrataidd yr Eidal[5] ac yn aelod o Siambr y Dirprwyon.

Publications[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Cyhoeddodd hi erthyglau amrywiol gyda AREL (Agenzia di Ricerche e Legislazione) a sefydlwyd gan yr Athro Nino Andreatta,[6]
  • Un welfare anziano. Invecchiamento della popolazione o ringiovanimento della società?, gwaith ar y cyd gyda Ed. Il Mulino, 2007
  • Precari. Storie di un'Italia che lavora, gyda chyflwyniad gan Susanna Camusso (Rubbettino, 2011,ISBN 884982940X)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Gianpiero D'Alia
Gweinidog dros Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Symleiddio
21 Chwefror 2014
Olynydd:
deiliad