Margaret Steuart Pollard

Oddi ar Wicipedia
Margaret Steuart Pollard
Aelodau y Grwp Ferguson yn Shalford Mill, Surrey. Chwith i Dde: 'Red Biddy', 'Sister Agatha' a 'Bill Stickers'(Margaret Steuart Pollard).
Ganwyd1 Mawrth 1903 Edit this on Wikidata
Bu farw13 Tachwedd 1996 Edit this on Wikidata
Truru Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, bardd Edit this on Wikidata
TadJohn Steuart Gladstone Edit this on Wikidata

Gor-gor-nith i'r Prif weinidog William Gladstone, awdur, ffeminydd, bardd Cernyweg ac ysgolhaig Sansgrit oedd Margaret Steuart Pollard née Gladstone (1 Mawrth 190313 Tachwedd 1996) a adnabyddid hefyd fel Peggy Pollard. Roedd hefyd yn un o sefydlwyr y gymdeithas ddirgel 'Grŵp Ferguson' a oedd yn gefn i'r Ymddiriedolaeth Cenedlaethol.[1] Yr ysbrydoliaeth ar gyfer sefydlu'r grwp oedd llyfr Clough William-Ellis, England and the Octopus (1928).[2]

Priododd yr hanesydd Cernyweg Frank Pollard ym 1928, trodd yn Babydd yn 1957 a bu farw yn Truro, Cernyw ar 13 Tachwedd 1996.

Magwraeth ac addysg[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn 2 Whitehall Court, Llundain ar Ddydd Gŵyl Dewi 1903. Roedd yn ferch i John Steuart Gladstone (1862–1920), marchnatwr Dwyrain Canol, a'i wraig Anne Fitzgibbon.[3]. Roedd ei thad yn nai i'r prif weinidog Rhyddfrydol W.E. Gladstone ac etifeddodd allu academaidd ei thad. Ar ôl iddo farw ym 1920, aeth i Goleg Newnham, Caergrawnt, lle'r daeth y ferch gyntaf i ennill anrhydedd dosbarth cyntaf yn yr ieithoedd Dwyreiniol Sansgrit a Pali. Yn 1952 derbyniodd ddoethuriaeth ac fe gyhoeddodd erthyglau ar destunau Sansgrit a Christnogaeth Ddwyreiniol.[4]

Awdur Cernyweg[golygu | golygu cod]

Yn 1928, priododd y Capten Frank Pollard, awdurdod ar hanes Cernyw, cynghorydd sir a chapten yn y morlu. Yr un flwyddyn daeth Pollard yn fardd Cernyweg, ac aelod Gorsedd Cernyw, sy'n dathlu diwylliant Cernyw ac yn gweithredu i warchod ei thraddodiadau ieithyddol a diwylliannol. Cymerodd yr enw Arlodhes Ywerdhon - ar ôl craig oddi ar Land's End, a elwir "Irish Lady" i gofio am wraig a fu mewn llongddrylliad na ellid ei hachub o’r graig, a dywedir bod ei ysbryd yn ymddangos mewn tywydd stormog.

Cyhoeddodd Pollard Bewnans Alysaryn yn 1941, pastiche ar ddramâu Canoloesol Cernyweg, un o'r prif ffynonellau ar gyfer Cernywern fodern. Gelwir y ddrama gan Carader, yr Archderwydd cyntaf, yn waith pwysig ac yn Dasserghyans Kernewek ("adfywiad Cernyweg”). Roedd Pollard hefyd yn delynores yr Orsedd am flynyddoedd lawer, gan chwarae telyn Wyddelig fechan.

Ysgrifennodd Margaret Pollard yn 1947, Cornwall, llyfr a grisialodd y cyfnod hwnnw ac a ddarluniwyd gan Sven Berlin. Mae ei barn ar werth hunaniaeth a'r hyn a wna'r Cernyw yn wahanol i ddiwylliannau eraill yn dal yn berthnasol. Cyflwynwyd y llyfr i Esgob Truro, Dr J.W. Hunkin, yr oedd Pollard yn gweithio iddo fel ysgrifennydd am rai blynyddoedd. Mae hi'n gorffen y llyfr gydag anogaeth: Bedheugh bynatha Kernewek - "Byddwch am byth Cernyw".

Roedd Pollard hefyd yn ymarferol iawn, yn frodwraig frwd, yn awdurdod ar eifr, ac yn gweithio ar gyfer cadwraeth Cernyw. Bu'n ysgrifennydd Cernyw i’r Cyngor Diogelu Lloegr Wledig am 14 mlynedd, ac fe ymladdodd i amddiffyn Cernyw rhag or-ddatblygu.

Mae un o ganeuon Pollard yn dathlu arbed Clogwyn Mayon, 39 erw yn Land's End, rhag "brics a llwyth o goncrid". Roedd hi hefyd yn gefnogwr cyson yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghernyw ac yn rhan o grŵp o ferched anhysbys o'r enw “Ferguson's Gang”, a oedd yn helpu gyda chyllid i arbed arfordir Cernyw. Dylanwadwyd ar y gang gan gyhoeddiad Clough Williams-Ellis England and the Octopus (1928). Yn gyfrinachol, byddai aelodau'r 'gang' yn cyrraedd pencadlys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llundain, gan adael ffugenw i adnabod eu hunain fel rhan o'r grŵp (enw Pollard oedd Bill Stickers), gollwng y bag arian a diflannu.

Pabyddiaeth[golygu | golygu cod]

Yn 1957, trodd yn Babydd a chynorthwyodd i ddarparu tir a chyllid i adeiladu eglwys Gatholig ar safle capel canoloesol Our Lady of the Portal a St Piran, yn Truro - a gwblhawyd yn 1973.

Yn y 1960au dechreuodd roi ei eiddo bydol i ffwrdd. Yn ei henaint, roedd hi'n byw'n syml mewn un ystafell yn hapus a chyfforddus mewn hen bwythyn mwynwyr alcam yn St Ke. Roedd hi'n dal i fod yn hudolus, yn chwilfrydig, ac yn sylwebydd ar y byd o'i chwmpas. Roedd hi’n ffigwr tal, gosgeiddig, wedi'i gwisgo mewn sgert hir a sgarff wastad ynghlwm wrth ei phen gan barhau i fod yn ysgolhaig Ewropeaidd, yn frwdfrydig ynglŷn â Chernyw, ond yn anad dim, yn Gatholig gofalgar ac ymroddedig. Cafwyd y Medal Benemerenti o’r Pab am hyn.

Parhaodd i weithio yn ei saithdegau, gyda chyfieithiadau o Slavoneg yr Hen Eglwys. Parhaodd i gyfansoddi emynau, canu yn Lladin, Cernyweg a Saesneg. Casglodd arian i helpu merched duon yn Ne Affrica. Pan oedd bron yn 80 oed, bu Peggy yn arwain pererindod i De'r Almaen.

Marw[golygu | golygu cod]

Bu farw Truro, Cernyw 13 Tachwedd 1996. Ysgrifennodd Ann Trevenen Jenkin coffhad dwys am Peggy yn yr Independent ar 7 Rhagfyr 1996.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Bagnall, Polly (2012). Ferguson- Exhibition Catalogue.
  2. pocketbookuk.com;[dolen marw] adalwyd 11 Mawrth 2018.
  3. oxforddnb.com; adalwyd 11 Mawrth 2018
  4. Limb, Sue (2014). Breaking Bounds: Six Newnham Lives. Newnham College, Cambridge. ISBN 978-0993071508.
  5. Obituary:Margaret Pollard (en) , The Independent, 7 Rhagfyr 1996. Cyrchwyd ar 11 Mawrth 2018.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Bewnans Alysaryn gan Peggy Pollard argraffwyd gan James Lanham, St Ives 1941
  • Polly Bagnall & Sally Beck (2015). Ferguson's Gang: The Remarkable Story of the National Trust Gangsters. Pavilion Books.
  • Sue Limb (2014). Breaking Bounds: Six Newnham Lives. Newnham College, Caergrawnt.
  • Hutton-North, Anna (2013). Ferguson's Gang - The Maidens behind the Masks. Lulu Inc.
  • Pollard, Peggy (1947). Cernyw. Llundain: Paul Elek.