Margaret Pole, Arglwyddes Salisbury
Margaret Pole | |
---|---|
Arglwyddes Salisbury | |
![]() Gwraig ddienw; o bosib Margaret Pole, 8fed arglwyddes Salisbury[1] | |
Ganwyd |
14 Awst 1473 Farleigh Hungerford Castle, Gwlad yr Haf, Lloegr |
Bu farw |
27 Mai 1541 (67 oed) Tŵr Llundain, Lloegr |
Priod | Sir Richard Pole (1462–1504) |
Plant |
|
Teulu | York |
Tad | George Plantagenet, dug 1af Clarens (1449–1478) |
Mam | Isabel Neville (1451–1476) |
Uchelwraig Seisnig oedd Margaret Pole, Arglwyddes Salisbury (14 Awst 1473 – 27 Mai 1541). Roedd hi'n ferch i Siôr, Dug Clarens, brawd Edward IV, brenin Lloegr a Rhisiart III, brenin Lloegr. Ei mam oedd Isabel o Warwick, merch Richard, Iarll Warwick (llysenw: y "Kingmaker") Roedd Margaret yn un o ddwy ferch yn yr 16g yn Lloegr i fod yn arglwyddes drwy ei hawl ei hun: y llall oedd Anne Boleyn, Ardalydd Penfro.
Yn 1500 priododd Margaret Syr Richard Pole (1462–1504), boneddigwr o Swydd Buckingham o dras Gymreig. Byddai eu mab Reginald Pole (1500–1588) yn ddiweddarach yn dod yn Gardinal yr Eglwys Gatholig Rufeinig ac yn Archesgob Caergaint yn ystod y Gwrth-Ddiwygiad.
Roedd Margaret yn foneddiges breswyl i Catrin o Aragón pan oedd Catrin yn briod ag Arthur Tudur (1501–2) ac eto pan ailbriododd â Harri VIII, brenin Lloegr (1509).
Cafodd Margaret ei dienyddio yn 1541 yn Nhŵr Llundain ar orchymyn Harri VIII. Ym 1886 cafodd ei gwynfydoli fel merthyr i'r Eglwys Gatholig gan y Pab Leo XIII.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Hazel Pierce, Margaret Pole, Countess of Salisbury, 1473–1541: Loyalty, Lineage and Leadership (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2003)