Ann Boleyn
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Anne Boleyn)
| Ann Boleyn | |
|---|---|
| Ganwyd | Anne Boleyn 1507 Blickling Hall |
| Bu farw | 19 Mai 1536 o pendoriad Tŵr Llundain |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
| Galwedigaeth | pendefig, boneddiges breswyl |
| Swydd | brenhines gydweddog |
| Tad | Thomas Boleyn, 1st Earl of Wiltshire |
| Mam | Elizabeth Boleyn |
| Priod | Harri VIII |
| Plant | Elisabeth I, mab marw-anedig Tudor, Henry |
| Perthnasau | Mari I, Catrin Howard |
| Llinach | Boleyn family |
| llofnod | |

Brenhines Lloegr rhwng 1533 a 1536 oedd Ann Boleyn (1501/1507? - 19 Mai 1536). Gwraig Harri VIII a mam y frenhines Elisabeth I oedd hi.
Priododd Harri â Ann ar 25 Ionawr 1533, yn y dirgel, wedi ysgaru ei wraig cyntaf Catrin o Aragón. Gwraig-yn-aros i Catrin oedd Ann ers y 1520au. Cafodd y seremoni coroniad Ann fel brenhines Lloegr eu perfformio ar 1 Mehefin 1533.
Merch Thomas Boleyn, 1af Iarll Wiltshire, a'i wraig Elisabeth, o'r Castell Hever, oedd Ann. Cafodd ei addysg yn Ffrainc; morwyn y frenhines Claude o Ffrainc oedd hi. Ei chwaer Mari oedd cariad y frenin Harri rhwng 1521 a 1526.