Mared Lewis

Oddi ar Wicipedia
Mared Lewis
Ganwyd1964 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Awdures a dramodydd yw Mared Lewis (ganwyd 1964) yn wreiddiol o Falltraeth, Ynys Môn ac ar hyn o bryd mae hi'n byw yn Llanddaniel Fab, Sir Fôn. Ei hoff awduron hi yw Geraint V. Jones a Jane Edwards.[1]

Graddiodd yn y Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna treuliodd gyfnod byr yn Nghaliffornia. Wedi gweithio fel athrawes Saesneg ac ym myd addysg a busnes, mae hi bellach yn gweithio ar ei liwt ei hun. Mae hi wedi cyfrannu nifer o sgriptiau i gyfresi fel Pobol y Cwm a Rownd a Rownd ac i'r gyfres ddrama radio Rhydeglwys. Darlledwyd saith drama wreiddiol ganddi ar Radio Cymru.

Mae Mared wedi cyhoeddi nifer o nofelau i oedolion ac i bobl ifanc. Mae ei llyfrau hi yn cynnwys Fi a Mr Huws, Rhwng Dau Fyd ac Alffi.[2]. Cyrhaeddodd Maison du Soleil restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2009. Mae wedi ennill sawl coron a chadair mewn eisteddfodau lleol, a choron yr Eisteddfod Ryng-golegol.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Esgid Wag (Dref Wen, 2004)
  • Ffair Sborion (Dref Wen, 2007)
  • Y Maison du Soleil (Gwasg Gwynedd, 2010)
  • Min y Môr (Gwasg Gwynedd, 2012)
  • Alffi, Cyfres Pen Dafad (Y Lolfa, 2012)
  • Fi a Mr Huws (Y Lolfa, 2017)
  • Llwybrau Cul, Cyfres Amdani (Gwasg Gomer, 2018)
  • Rhwng Dau Fyd (Y Lolfa, 2015)
  • Treheli (Y Lolfa, 2019)
  • Gemau (Y Lolfa, 2020)
  • Rob (Y Lolfa, 2021)
  • Croesi Llinell (Y Lolfa, 2023)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]


Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Mared Lewis ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.