Mamoth
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Mammoth)
| Mamothiaid | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Proboscidea |
| Teulu: | Eliphantidae |
| Genws: | Mammuthus Brookes, 1828 |
| Rhywogaethau | |
|
Mammuthus columbi | |
Genws diflanedig o famaliaid anferth eliffantaidd gydag ysgithrau hirion atro, blew datblygedig iawn a childdannedd gwrymiog yw mamothiaid. Roedden nhw'n byw yn ystod yr epoc Pleistosen (Oes yr Iâ) rhwng tua 1.6 miliwn o flynyddoedd yn ôl a 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Bu mamothiaid yn byw yng Nghymru ar un adeg. Cafwyd hyd i benglog mamoth yn ymyl sgerbwd coch Ogof Paviland yn ne Cymru yn 1823. Buasai wedi'i chladdu yno tua 29,000 o flynyddoedd yn ôl.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]
