Mamma Mia! The Movie

Oddi ar Wicipedia
Mamma Mia! The Movie

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Phyllida Lloyd
Cynhyrchydd Judy Craymer
Catherine Johnson
Uwch Gyfarwyddwyr
Benny Andersson
Björn Ulvaeus
Rita Wilson
Tom Hanks
Phyllida Lloyd
Ysgrifennwr Catherine Johnson
Serennu Meryl Streep
Amanda Seyfried
Pierce Brosnan
Colin Firth
Stellan Skarsgård
Dominic Cooper
Julie Walters
Christine Baranski
Cerddoriaeth Benny Andersson
Björn Ulvaeus
Stig Anderson
Sinematograffeg Haris Zambarloukos
Golygydd Lesley Walker
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Universal Studios
Dyddiad rhyddhau 10 Gorffennaf, 2008
Amser rhedeg 108 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Y Deyrnas Unedig
Yr Almaen
Iaith Saesneg
Gwefan swyddogol
(Saesneg) Proffil IMDb

Mae Mamma Mia! The Movie ("Mamma Mia! Y Ffilm") yn addasiad llwyfan-i-ffilm o'r sioe gerdd yn y West End o'r enw Mamma Mia! (1999). Mae'r sioe yn seiliedig ar ganeuon y grŵp pop hynod lwyddiannus ABBA gyda'r gerddoriaeth ychwanegol wedi'u gyfansoddi gan Benny Andersson a oedd yn aelod o ABBA. Gwnaeth y ffilm yn arbennig o dda yn y sinemau a chafodd y penwythnos fwyaf erioed am ffilm gerddorol yn hanes yr Unol Daleithiau. Fel y sioe gerdd, tarddia deitl y ffilm o gân boblogaidd ABBA o 1975 Mamma Mia. Rhyddhawyd y ffilm gan Universal Studios mewn partneriaeth â Playtone a Littlestar.[1] Cafodd y ffilm ei rhyddhau ar y 3ydd o Orffennaf 2008 yng Ngwlad Groeg, ar y 10fed o Orffennaf 2008 yn Awstralia, Seland Newydd a'r Deyrnas Unedig, ar y 11eg o Orffennaf 2008 yn Sweden, ar y 16eg o Orffennaf 2008 yn y Philippines, ar y 18fed o Orffennaf 2008 yn yr Unol Daleithiau a Chanada, ar 10fed o Fedi yn Ffrainc, ar y 24ain o Orffennaf 2008 ac ar y 3ydd o Hydref 2008 yn yr Eidal.[2]

Arweinia Meryl Streep cast y ffilm wrth iddi chwarae rhan mam sengl o'r enw Donna Sheridan. Mae Pierce Brosnan, Colin Firth, a Stellan Skarsgård yn chwarae rhan tri tad posib i ferch Donna, (Amanda Seyfried).

Ar y 29ain o Awst 2008 rhyddhawyd Mamma Mia!: The Sing-Along Edition, gyda'r geiriau i'r holl ganeuon wedi'u uwch-oleuo ar y sgrîn mewn rhai theatrau.[3]

Cast[golygu | golygu cod]

Y caneuon yn y ffilm[golygu | golygu cod]

Cafodd yn caneuon canlynol eu cynnwys yn y ffilm ei hun ond dim ond 17 o'r caneuon hyn oedd ar yr albwm a oedd yn cydfynd â'r ffilm. (Ni chafodd "Chiquitita", "Waterloo" a "I Do, I Do, I Do, I Do, I Do" eu cynnwys):

  • "I Have a Dream" - Sophie
  • "Honey, Honey" - Sophie, Ali a Lisa
  • "Money, Money, Money" - Donna, Tanya, Rosie a'r Corws Groegaidd
  • "Mamma Mia" - Donna
  • "Chiquitita" - Tanya, Rosie a Donna
  • "Dancing Queen" - Donna, Tanya, Rosie a'r Corws Groegaidd
  • "Our Last Summer" - Sophie, Sam, Harry, a Bill
  • "Lay All Your Love on Me" - Sky a Sophie
  • "Super Trouper" - Donna, Tanya, a Rosie
  • "Gimme! Gimme! Gimme!" - Cast
  • "The Name of the Game" - Sophie a Bill (golygfa a ddileuwyd sydd ar y DVD)
  • "Voulez-Vous" - Cast
  • "SOS" - Sam a Donna
  • "Does Your Mother Know" - Tanya, Pepper, a'r Dynion
  • "Slipping Through My Fingers" - Donna a Sophie
  • "The Winner Takes It All" - Donna
  • "I Do, I Do, I Do, I Do, I Do" - Donna, Sam, a'r Cwmni
  • "When All is Said and Done" - Sam a'r Cwmni
  • "Take a Chance on Me" - Rosie a Bill
  • "Mamma Mia" (Reprise) - Cast
  • "I Have a Dream" (Reprise) - Sophie
  • "Dancing Queen" - Donna, Tanya and Rosie (credydau diwedd y ffilm)
  • "Waterloo" - Cast (credydau diwedd y ffilm)
  • "Thank You for the Music" - Sophie (credydau diwedd y ffilm)

Rhyddhawyd yr albwm a oedd yn cyd-fynd â'r ffilm ar yr 8fed o Orffennaf, 2008 gan gwmni Decca. Am fod y ffilm wedi'i seilio ar y sioe gerdd, mae'r caneuon yn fersiynnau newydd ac nid yn berfformiadau gan y grŵp ABBA. Mae nifer o'r caneuon wedi cael eu haddasu, gyda rhai o'r geiriau wedi'u newid er mwyn ateb gofynion y plot. Weithiau, mae geiriau'r caneuon yn cael eu dweud yn hytrach na'u canu neu mae iddynt drefniant gyda cherddorfa, gyda'r gitâr neu'r bouzouki Groegaidd yn gyfeiliant iddynt (fel a welir yn y perfformiad olaf o "I Have a Dream").

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm gerdd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.