Neidio i'r cynnwys

Mamma Mia! (sioe gerdd)

Oddi ar Wicipedia
Mamma Mia!
Enghraifft o:gwaith drama-gerdd Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
CymeriadauDonna Sheridan, Rosie, Tanya, Sam Carmichael, Bill Austin, Harry Bright, Sophie Sheridan, Sky, Pepper, Eddie, Ali, Lisa Edit this on Wikidata
LibretyddCatherine Johnson Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afPrince Edward Theatre, Terazije Theatre Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af6 Ebrill 1999, 27 Mawrth 2015 Edit this on Wikidata[1]
CyfansoddwrBjörn Ulvaeus, Benny Andersson Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.mamma-mia.com/, https://mammamiathetour.com, https://www.mammamia-lemusical.com Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/01lggg edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Mamma Mia! yn sioe gerdd gan y dramodydd Prydeinig Catherine Johnson. Seiliwyd y sioe gerdd ar ganeuon ABBA a gyfansoddwyd gan Benny Andersson a Björn Ulvaeus. Er fod teitl y sioe gerdd yn dwyn enw un o ganeuon ABBA o 1975, mae'r sioe ei hun yn ffuglennol ac nid yw'n fywgraffiadol.

Roedd Björn Ulvaeus a Benny Andersson ynghlwm â datblygiad y sioe o'r cychwyn cyntaf. Mae Anni-Frid Lyngstad wedi bod yn gysylltiedig â'r sioe yn ariannol ond nid yw Agnetha Fältskog yn gysylltiedig ag ef er ei bod yno ar noson agoriadol a noson olaf y sioe yn Sweden.

Erbyn Gorffennaf 2003, roedd dros deg miliwn o bobl wedi gweld y sioe. Amcangyfrifir fod 30 miliwn o bobl wedi gweld y sioe gerdd erbyn 2007. Ers i'r sioe agor ym 1999, mae'r cynhyrchiad wedi gwneud $2.0 biliwn UDA. [2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]