Malcolm Allen (pêl-droediwr)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Malcolm Allen
Manylion Personol
Enw llawn Malcolm Allen
Dyddiad geni (1967-03-21) 21 Mawrth 1967 (53 oed)
Man geni Deiniolen, Gwynedd, Baner Cymru Cymru
Safle Blaenwr
Clybiau
Blwyddyn
Clwb
Ymdd.*
(Goliau)
1985–1988
1987
1988–1990
1990–1993
1993–1995
Watford
Aston Villa (ar fenthyg)
Norwich City
Millwall
Newcastle United
39 (5)
4 (0)
35 (8)
81 (24)
10 (5)
Tîm Cenedlaethol
1986–1993 Cymru 14 (3)

1Ymddangosiadau a goliau mewn clybiau hŷn
a gyfrodd tuag at y gyngrhair cartref yn unig
.
* Ymddangosiadau

Cyn chwaraewr pêl-droed a sylwebydd Cymreig yw Malcolm Allen (ganed 21 Mawrth 1967). Chwaraeodd dros Watford, Aston Villa, Norwich City, Millwall, Newcastle United a Stevenage Borough. Cynrychiolodd Gymru 14 gwaith rhwng 1986 a 1993.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Allen yn Neiniolen, Gwynedd a mynychodd Ysgol Brynrefail. Dechreuodd ei yrfa pêl-droed gyda Watford, gan arwyddo fel prentis yng Nghorffennaf 1983, cyn troi'n broffesiynol ym Mawrth 1985.[1] Sgoriodd unig gôl Watford yn rownd derfynol Cwpan Ieuenctid Lloegr ym 1985.[1] Chwaraeodd a sgoriodd dros y Hornets yn rownd gyn-derfynol Cwpan Lloegr yn erbyn Tottenham Hotspur ym 1987, ac mewn 19 ymddangosiad yng nghystadleuaeth y gwpan, sgoriodd wyth gôl.[1] Benthycwyd Allen gan Aston Villa ym Medi 1987 gan reolwr newydd Watford, Dave Bassett, ac ymunodd â Norwich am ffi o £175,000 yn Awst 1988.[1] Tra gyda Norwich, sgoriodd pedair gôl a thorri record y clwb, yn eu buddugoliaeth o 8–0 yn erbyn Sutton United ym mhedwaredd rownd Cwpan Lloegr. Dyma oedd un o dymhorau mwyaf llwyddiannus Norwich erioed, gan iddynt ddarfod yn bedwerydd yn y gynghrair a chyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Lloegr.

Ym 1989, bu dadl rhwng Allen a David O'Leary a gychwynnodd ffrae yn stadiwm Highbury Arsenal.[2] Cododd O'Leary Allen i fyny wrth ei war, a'i gario sawl lathen cyn i'r heddlu ymyrryd,[3] derbyniodd Arsenal gosb o £20,000.[4][5]

Ymunodd Allen â Millwall ym Mawrth 1990 am £400,000, gan dreulio tair blynedd yno cyn symud i Newcastle United am £300,000 yn Awst 1993. Ymddeolodd wedi iddo gael anaf, yn 28 oed, yn Rhagfyr 1995.[1]

Cynrychiolodd Gymru yn y tîm iau, y tîm B, ac ar lefel rhyngwladol llawn.[1] Derbyniodd ei gap llawn cyntaf pan oedd yn 18 oed, wedi iddo ond chwarae dim ond ychydig o gemau clwb hŷn,[1] gan ymddangos ar y cae ar 25 Chwefror 1986 pan guront Sawdi Arabia o 2-1 yn Riyadh. Derbyniodd 14 cap hŷn i gyd, gan wneud ei ymddangosiad rhyngwladol olaf ar 17 Tachwedd 1993, yn y gêm siomedig yn erbyn Romania ym Mharc yr Arfau, pan gollodd Cymru o 2-1 gan fethu a chymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 1994.[6]

Yn Awst 2006, roedd Allen yn y llys, wedi iddo gael ei gyhuddo o drais.[7] Yn Ebrill 2008, derbyniodd dedfryd ohiriedig a chael ei wahardd rhag gyrru wedi iddo gyfaddef ei fod wedi gyrru ar ôl yfed deg peint o gwrw.[8]

Erbyn hyn maen Allen yn ymddangos yn gyson fel sylwebydd ar y rhaglen deledu Sgorio, ynghyd â John Hartson a Dai Davies, yn ogystal â sylwebu ar gemau pêl-droed yn fyw ar ran Radio Cymru a Radio Wales.

Cyhoeddwyd ei hunangofiant gan Y Lolfa yn 2009.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Canary Citizens, Mark Davage, John Eastwood, Kevin Platt, Jarrold Publishing, (2001), ISBN 0-7117-2020-7

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 (1996) The Watford Football Club Illustrated Who's Who. Surrey: T.G Jones, tud. 23. ISBN 0-9527458-0-1
  2.  Happened on this Day - 4 November. BBC (4 Tachwedd 2002).
  3.  Graham Kelly: Points deduction is best weapon but it must be used with the utmost care. The Independent.
  4.  We are so sorry. The Sun.
  5.  Goons' role of shame update. RedCafe.net.
  6.  Malcolm Allen. Sporting Heroes.
  7. Ex-footballer admits kicking girl
  8.  Ten-pint former footballer banned. BBC (9 Ebrill 2008). Adalwyd ar 4 Awst 2008.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]