Maes glo De Cymru

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Maes Glo De Cymru)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Pwll Mawr, Blaenafon

Maes glo De Cymru yw'r mwyaf o'r ddau faes glo yng Nghymru. Mae'n ymestyn am bron 90 milltir o Fae Sant-y-Brid yn y gorllewin i Bont-y-pwl yn y dwyrain gyda rhannau ohono yn siroedd Caerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg, Merthyr Tydfil, Caerdydd, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen a Powys.

Mae'r maes glo yn fasn o greigiau Carbonifferaidd, a ffurfiwyd pan oedd Cymru yn rhan o uwchgyfandir Pangea ac yn wlad gwernydd yn agos i'r cyhydedd. Mae'r glo yn haen drwchus iawn, ond mae'n cynnwys haenau o dywodfaen a siâl hefyd. Mae natur y glo yn amrywio o un rhan o'r maes i'r llall. Yn Sir Gaerfyrddin, ceid glo carreg, tra'r oedd glo Cwm Rhondda yn lo ager, a ddefnyddid ar gyfer llongau ager.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]