Maes Awyr Rhyngwladol Yasser Arafat
Math | maes awyr rhyngwladol, maes awyr |
---|---|
Enwyd ar ôl | Yasser Arafat |
Agoriad swyddogol | 24 Tachwedd 1998 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Shokat as-Sufi |
Sir | Llywodraethiaeth Rafah |
Gwlad | Palesteina |
Arwynebedd | 450 ha |
Uwch y môr | 320 troedfedd |
Cyfesurynnau | 31.2464°N 34.2761°E |
Rheolir gan | Gwladwriaeth Palesteina |
Perchnogaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
Unig faes awyr Llain Gaza yw Maes Awyr Rhyngwladol Yasser Arafat (Arabeg: مطار ياسر عرفات الدولي; Matar Yasir 'Arafat ad-Dowaly) (IATA: GZA, ICAO: LVGZ). Ei enw gwreiddiol oedd Maes Awyr Rhyngwladol Gaza a newidiwyd wedyn i Faes Awyr Rhyngwladol Dahaniya, ond fe'i ailenwyd ar ôl Yasser Arafat er cof am gyn arweinydd y PLO. Fe'i lleolir yn Rafah yn ne Llain Gaza, yn agos i'r ffin â'r Aifft.
Mae'n perthyn i Awdurdod Cenedlaethol Palesteina ac yn cael ei redeg ganddynt, ac roedd hefyd yn gwasanaethu fel cartref i Palestinian Airlines. Roedd yn medru ymdopi â 700,000 o deithwyr y flwyddyn ac yn rhedeg 24 awr y dydd am 364 diwrnod y flwyddyn (gan gau ar Yom Kippur). Agorwyd y maes awyr yn 1998, ond bu rhaid iddo gau yn 2001 ar ôl cael ei fomio'n drwm gan luoedd arfog Israel.