Maen Llia

Oddi ar Wicipedia
Maen Llia
Mathmegalith, maen hir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.860799°N 3.563631°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwBR017 Edit this on Wikidata
Gweler hefyd Maen Llia (carnedd).

Maen hir cynhanesyddol yw Maen Llia sy'n sefyll ar rosdir agored yng nghymuned Maescar, Brycheiniog, Powys. Yn eironig (o gofio'r enw) dyma un o'r meini hirion mwyaf yng Nghymru.

Lleolir Maen Llia rhwng Aberhonddu ac Ystradfellte ar rosdir uchel sy'n gorwedd rhwng cymoedd Llia a Senni, ym Mannau Brycheiniog. Cyfeirnod OS (Map 160): SN 924192.

Lleoliad a llun o'r maen hir.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae'n garreg fawr tua 3.7 medr o uchder a 2.8 medr ar draws ond gyda lled o 0.6 medr yn unig. Mae'n bosibl ei bod yno i dywys teithwyr rhwng y ddau gwm (h.y. carreg ddangos (Saesneg: Finger Stone). Mae'n debygol fod y maen wedi cael ei godi ar y safle rhywbryd yn yr ail fileniwm Cyn Crist.[1]

Darganfuwyd arysgrif mewn llythrennau Lladin ac Ogam ar y maen yn y 1940au.[1] Maent yn aneglur heddiw ond fe'i darllenwyd yn y 1940au fel:

ROVEVI / S...SOVI

a

VASSO(G?)

Mae un o ffyrdd Rhufeinig Cymru yn mynd heibio tua 300 m o'r safle, ac mae'n bosibl fod yr arysgrif honno yn cofnodi enw personol ac yn awgrymu fod y ffordd Rufeinig, a gysylltai Aberhonddu a Glyn Nedd, yn cael ei defnyddio'n rheolaidd yn yr Oesoedd Canol Cynnar.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Helen Burnham (gol.), Clwyd and Powys, yn y gyfres A Guide to Ancient and Historic Wales (HMSO, 1995).

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: