Afon Llia

Oddi ar Wicipedia
Afon Llia
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8178°N 3.5461°W Edit this on Wikidata
Map

Afon yn ne Powys yw Afon Llia. Mae'n gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Ceir tarddle'r afon ar lechweddau dwyreiniol Fan Nedd a llechweddau gorllewinol Fan Dringarth yn y Fforest Fawr, lle mae nifer o nentydd yn ymuno i ffurfio'r afon. Mae'n llifo tua'r de am 5 km (3 milltir) cyn ymuno ag Afon Dringarth i ffurfio Afon Mellte.

Ffurfia Dyffryn Llia un o'r bylchau isaf dros y grib o dywodfaen sy'n ymestyn rhwng Llandeilo a'r Fenni. Ceir Maen Llia ym mlaenau'r dyffryn, carreg sy'n dyddio o Oes yr Efydd. Yn ddiweddarach, roedd ffordd Rufeinig rhwng Castell-nedd ac Aberhonddu yn arwain trwy'r dyffryn, ac yn y 19g agorwyd ffordd dyrpeg rhwng Abertawe ac Aberhonddu trwy'r dyffryn. ceir maes parcio a safle picnic ym Mlaen Llia.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]