Bridget Bevan

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Madam Bevan)
Jump to navigation Jump to search
Bridget Bevan
Madam Bevan.jpg
Ganwyd 30 Hydref 1698 Edit this on Wikidata
Llannewydd Edit this on Wikidata
Bu farw 11 Rhagfyr 1779 Edit this on Wikidata (81 oed)
Talacharn Edit this on Wikidata
Cenedl Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth dyngarwr, addysgwr Edit this on Wikidata

Cymwynaswraig ac addysgydd o Gymraes oedd Bridget Bevan (née Vaughan), a adnabyddir hefyd fel Madam Bevan (bedyddwyd 30 Hydref 169811 Rhagfyr 1779). Hi oedd prif gynheiliad gwaith addysgol y gweinidog Anghydffurfiol Griffith Jones o Landdowror, sefydlydd yr Ysgolion Cylchynol Cymreig.

Madam Bevan

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Bridget Bevan yn y Derllys, Llannewydd, yn Sir Gaerfyrddin, ddiwedd Hydref 1698, yn ferch ieuengaf y philanthropydd John Vaughan (1663-1722), noddwr ysgolion y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol yn y sir, a'i wraig, Elizabeth Thomas (m. 1721). Ar 30 Rhagfyr 1721 priododd yr AS lleol a chyfreithiwr Arthur Bevan (1689-1743) yn eglwys Merthyr. Roedd hi'n etifeddes ystad ei ewythr John Vaughan o'r Derllys.

Ysgol Madam Bevan yn Nhrefdraeth, Sir Benfro.

Yn 1731 dechreuodd noddi gwaith Griffith Jones i sefydlu ysgol arbrofol ym mhentref Llanddowror, Sir Gaerfyrddin. O'r cnewyllyn hwn tyfodd yr Ysgolion Cylchynol Cymreig, a symudai o bentref i bentref trwy Gymru yn cyflwyno addysg sylfaenol i blant ac oedolion a'u dysgu i darllen Cymraeg. Cyfranodd Madam Bevan lawer o'i chyfoeth sylweddol i'r ysgolion arloesol hyn. Ar ôl marwolaeth ei wraig yn 1755, symudodd Griffith Jones i fyw ym mhlasdy Madam Bevan; pan fu farw yntau yn 1761, ysgwyddodd hi faich y brosiect. Rhwng 1736 a 1776, cynhaliwyd 6,321 o ysgolion a rhoddwyd elfennau addysg Gymraeg i 304,475 o blant ac oedolion, sef bron i hanner poblogaeth Cymru.

Bu farw Madam Bevan yn Nhalacharn yn 1779. Gadawodd £10,000 i'r ysgolion (swm sylweddol iawn yn y 18g). Ond gwrthynebodd rhai o'i pherthnasau yr ewyllys am 30 o flynyddoedd, ac erbyn i'r arian gael ei ryddhau yn 1804 roedd y swm wedi tyfu i £30,000.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]