Môr-hwyaden y Gogledd
Gwedd
| Môr-hwyaden y Gogledd | |
|---|---|
| Delwedd cyfansawdd | |
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Anseriformes |
| Teulu: | Anatidae |
| Is-deulu: | Merginae |
| Genws: | Melanitta |
| Is-enws: | (Melanitta) |
| Rhywogaeth: | M. fusca |
| Enw deuenwol | |
| Melanitta fusca (Linnaeus, 1758) | |
Hwyaden sy'n byw o gwmpas yr arfordir yw Môr-hwyaden y Gogledd (Melanitta fusca). Mae'n nythu yng ngogledd Ewrop ac Asia. Ystyrir y ffurf yng Ngogledd America a dwyrain Asia yn rhywogaeth wahanol (Môr-hwyaden Adeinwen, Melanitta deglandi) yn aml. Dim ond y ceiliog sy'n ddu, tra mae'r iâr yn frown. Gellir gwahaniaethu rhwng y rhywogaeth yma a'r Fôr-hwyaden ddu yn hawdd os gellir gweld y darn gwyn sydd ar adain Môr-hwyaden y Gogledd ond sy'n absennol yn y Fôr-hwyaden ddu. Mae Môr-hwyaden y Gogledd hefyd yn aderyn mwy.

Yn y gaeaf, mae'n symud tua'r de. Nid yw'n aderyn cyffredin yng Nghymru, ond gellir gweld ambell un yng nghanol y niferoedd llawer mwy o'r Fôr-hwyaden ddu sy'n gaeafu ger yr arfordir yn y gaeaf.