Luigi Pulci

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Luigi Pulci
Pulci.jpg
Ganwyd 15 Awst 1432 Edit this on Wikidata
Fflorens Edit this on Wikidata
Bu farw 11 Tachwedd 1484 Edit this on Wikidata (52 oed)
Padova Edit this on Wikidata
Galwedigaeth bardd, ysgrifennwr, diplomydd Edit this on Wikidata

Bardd Eidalaidd yn yr iaith Eidaleg oedd Luigi Pulci (15 Awst 143211 Tachwedd 1484) sy'n nodedig am ei arwrgerdd ddifrif-ddigrif Morgante (1483), un o'r enghreifftiau gwychaf o farddoniaeth epig yn holl lenyddiaeth y Dadeni.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Luigi Pulci ar 15 Awst 1432 i deulu llenyddol yn Fflorens. Er gwaethaf achau bonheddig ei deulu, tlodion oeddynt a gwaethygodd eu sefyllfa yn sgil marwolaeth ei dad ym 1451. Gweithiodd Luigi yn glerc ac yn llyfrifwr er mwyn cynnal ei fam a'i frodyr a chwiorydd. Priododd Luigi â Lucrezia degli Albizzi ym 1453 a chawsant bedwar mab.[1]

Cyflwynwyd Pulci i deulu'r Medici ym 1461, ac enillodd nawdd Cosimo de' Medici, Arglwydd Fflorens, am ei ffraethineb a'i ysgrifeniadau addawol. Magodd gyfeillgarwch agos â Lorenzo, ŵyr hynaf Cosimo, a daeth i adnabod dynion ifainc eraill yng nghylch Lorenzo, gan gynnwys yr ysgolhaig a bardd Angelo Poliziano. Bu Pulci hefyd yn ffraeo ag ambell un o wŷr llenyddol Fflorens, yn enwedig yr offeiriad Matteo Franco. Ysgrifennai'r ddau fardd gyfres o sonedau chwyrn yn ymosod ar ei gilydd ym 1474–5, er yr oeddynt ar un pryd yn gyfeillion. Gelyn arall oedd yr athronydd neo-Blatonaidd Marsilio Ficino, a oedd yn anghytuno â Pulci ar bynciau hud a lledrith.[1]

Tua 1461, ar gais Lucrezia Tornabuoni, mam Lorenzo, cychwynnodd Pulci ar ei gerdd Morgante. Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf o'r gerdd ym 1478, a chanddi 23 o ganiadau. Derbyniodd ymateb ffyrnig gan yr Academi Blatonaidd yn Fflorens. Cyhoeddwyd y gerdd yn llawn, dan y teitl Il Morgante maggiore a chyda 28 o ganiadau, yn Fflorens ym 1483. Addasiad ydyw o ddwy gerdd o'r 14g yn nhraddodiad Mater Ffrainc: Orlando, sydd yn traddodi anturiaethau Orlando (Rolant) yn y dwyrain, a La Spagna, hanes rhyfel Siarlymaen yn Sbaen, marwolaeth Orlando ym Mrwydr Ronsyfal, a chosb y bradwr Gano. Ffug-arwrgerdd ydyw sydd yn barodi ar farddoniaeth sifalriaidd yr Oesoedd Canol ac yn portreadu'r cawr Morgante yn arwr y chwedl.

Wedi i Lorenzo etifeddu arglwyddiaeth Fflorens ym 1469, penodwyd Pulci i arwain sawl cenhadaeth ddiplomyddol. Er ei weithgareddau llenyddol a diplomyddol, ni lwyddodd Pulci i wella'i safle ariannol. Methodd ei frodyr, Luca a Bernardo, roi trefn ar gyllid y teulu, a bu farw Luca mewn carchar dyledwyr ym 1470. Mae'n bosib i Pulci golli ffafr Lorenzo oherwydd y ffrae rhyngddo a Matteo Franco.[1] Tua 38 oed ymunodd Pulci â byddin y condottiere Roberto Sanseverino, a bu'n filwr am dâl am weddill ei oes. Ar ei ffordd i Fenis yng nghwmni Sanseverino bu farw Luigi Pulci ar 11 Tachwedd 1484 o afiechyd yn Padova, Gweriniaeth Fenis, yn 52 oed.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) "Luigi Pulci" yn Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 4 Medi 2020.
  2. (Saesneg) Luigi Pulci. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Mehefin 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Lewis D. Einstein, Luigi Pulci and the Morgante Maggiore (1902).
  • Giacomo Grillo, Two Aspects of Chivalry: Pulci and Boiardo (1942).
  • John Raymond Shulters, Luigi Pulci and the Animal Kingdom (1920).