Lucy Aharish

Oddi ar Wicipedia
Lucy Aharish
Ganwydلوسي هريش Edit this on Wikidata
18 Medi 1981 Edit this on Wikidata
Nasareth Edit this on Wikidata
Man preswylTel Aviv Edit this on Wikidata
DinasyddiaethIsrael Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, cyflwynydd teledu, actor, digrifwr, cyfranogwr ar raglen deledu byw, cyflwynydd radio, model ffasiwn, celebrity branding, actor ffilm, gweithredydd gwleidyddol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Channel 1
  • Channel 10
  • Channel 2 فلسطين حرة مستقلة
  • HaHadashot 12
  • Keshet
  • Reshet
  • Reshet 13
  • i24NEWS Edit this on Wikidata
PriodTzachi HaLevy Edit this on Wikidata

Mae Lucy Aharish (Arabeg: لوسي هريش‎, Hebraeg: לוסי אהריש‎; ganed 18 Medi 1981) yn gyflwynydd a darlledydd teledu Arab-Israeli. Mae'n cyflwyno rhaglen materion cyfoes y bore ar Sianel 13.[1] Mae hi'n adnabyddus am fod yr Arab cyntaf i gyflwyno rhaglen newyddion Hebraeg ar deledu Israel. Rhwng Gorffennaf 2013 - Ionawr 2016 bu hefyd yn cyflwyno Evening Edition ar y gwasanaeth newyddion sy'n darlledu'n Hebraeg, Saesneg a Ffrangeg i24news. Mae bellach yn gweithio i Reshet 13.

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Lucy Aharish

Ganwyd Lucy Aharish ym 1981 yn ninas deheuol Israel, Dimona ar ffin ogleddol anialwch y Negef. Mae'n ferch Maaruf a Salwa Aharish, Arabaiaid Mwslim o Nasareth a'r unig ddisgybl Arabaidd yn ei hysgol uwchradd.

Magwyd hi ymysg Iddewon o dras Moroco yn y dref, "I am an Arab who grew up among Moroccan Jews. That's the worst. You learn the hard-core shticks; they have a very short fuse. I was a right-wing Muslim, a fan of Beitar (Jerusalem soccer club with nationalistic fans)."[2] Mae hi bellach yn uniaethu gyda'r asgell chwith.[3]

Astudiodd Gwyddoniaeth Gymdeithasol a Theatr ym Mhrifysgol Hebraeg Jerwsalem ac yna newyddiaduraeth yn Ysgol Koteret yn Tel Aviv, cyn parhau â'i haddysg yn yr Almaen am flwyddyn a hanner.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Yn ôl dychwelyd o'r Almaen, symudodd Lucy Aharish i Tel Aviv. Gweithiodd am bythefnos fel gohebydd materion Arabaidd ar bapur newydd Hebraeg, Yediot Aharonot, cyn cael ei recriwtio gan Sianel 10 Israel yn 2007, a dod y cyflwynydd Arabaidd gyntaf ar raglen newyddion Hebraeg. Yn 2008, adawodd y rhaglen i gyflwyno sioe Erev Tov' ar Sianel 10, ynghyd â Guy Pines. Mae hi hefyd yn ymwneud â radio ar Siannel 2, lle mae'n cynnal y rhaglen boreuol gydag Emmanuel Rosen a Maya Bengal.

Mae Lucy Aharish wedi datgan sawl gwaith nad yw hi'n gweld gwrth-ddywediad rhwng bod yn berson Arabaidd ac yn Israeli. Mae hi'n dathlu Diwrnod Annibyniaeth Israel.[1]

Arall[golygu | golygu cod]

Bu Lucy Aharish yn rhan o'r gast y ffilm Hollywood o World War Z lle mae'n chwarae merch ifanc Balesteinaidd.[4]

Ym mis Gorffennaf 2014, yn ystod cyrch filwrol, 'Protective Edge', gan Israel ar diriogaeth Gaza, fe gollfarnodd Hamas am "chwarae gyda'n bywydau"[5]

Personol[golygu | golygu cod]

Ar 10 Hydref 2018 priododd Lucy Aharish gyda'r actor a'r canwr Iddewig, Tzachi HaLevy sy'n adnabyddus i dramorwyr am chwarae rhan 'Naor', yn Fauda y ddrama gyfres am wasanaeth cudd Israel sy'n cynnal cyrch yn erbyn Palesteiniaid[6] Bu eu perthynas yn un cudd am bedair mlynedd oherwydd y drwg-deimlad a'r perygl o du'r ddau gymuned crefyddol a chenedlaethol. Derbyniodd y cwpwl llythryau casineb ac yn sgil un ohonynt, cyfansoddodd Tzachi gân yn seiliedig ar eiriau'r llythyr.[7]

Cyhuddodd un aelod seneddol Knesset o blaid asgell dde, y Likud, o Aharish o "swyn-dwyllo Iddew" wrth ei briod. Meddai Oren Hazan MK nad oedd yn beio Aharish, am "swyn-dwyllo enaid Iddewig er mwyn niweidio ein gwlad" yn hytrach dwedodd y byddai'n ei "chroesawu hi i gael troëdigaeth". Rhoddodd y bai ar Halevy "am gymryd Fauda un cam yn rhy bell ... diwedd i gymathu!"[6]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 https://www.haaretz.com/no-excuses-no-apologies-1.5353762
  2. yn https://www.haaretz.com/1.5072622
  3. "I am an Arab who grew up among Moroccan Jews. That's the worst. You learn the hard-core shticks; they have a very short fuse. I was a right-wing Muslim, a fan of Beitar (Jerusalem soccer club with nationalistic fans)
  4. https://www.imdb.com/title/tt0816711/reference
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-21. Cyrchwyd 2018-10-11.
  6. 6.0 6.1 https://www.jpost.com/Israel-News/Lucy-Aharish-weds-Fauda-star-Tzachi-Halevy-569118
  7. https://edition.cnn.com/videos/world/2018/12/19/amanpour-lucy-aharish-tzachi-halevy.cnn