Lucius Artorius Castus
Lucius Artorius Castus | |
---|---|
Ganwyd | 2 g |
Bu farw | 2 g Dalmatia |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | person milwrol |
Roedd Lucius Artorius Castus (fl. 2g) yn gadfridog Rhufeinig a wasanaethodd ym Mhrydain. Fel aelod o'r gens Artoria mae'n debygol ei fod yn frodor o Campania yn ne yr Eidal. Mae rhai ysgolheigion wedi awgrymu mai ef oedd sail y chwedlau am y Brenin Arthur.
Mae'r hyn a wyddir am Artorius Castus yn dod o arysgrifau ar arch garreg a chofeb yn Podstrana ar arfordir Dalmatia. Nid oes dyddiad arnynt, ond mae'r arddull yn awgrymu dyddiad cyn 200. Yn ôl yr arysgrifau roedd Artorius yn ganwriad yn y y lleng Legio III Gallica, yna symudodd i VI Ferrata, yna i V Macedonica, lle dyrchafwyd ef i primus pilus. Gwnaed ef yn praepositus y Classis Misenensis (llynges Bae Napoli), yna bu'n praefectus y lleng VI Victrix.
Roedd y lleng VI Victrix yng ngwledydd Prydain o tua 122, ac mae'n debyg fod Artorius wedi bod a rhan yn y gwaith o warchod Mur Hadrian. Pan wrthryfelodd VI Victrix, ymddengys i Artorius barhau'n deyrngar, oherwydd cafodd ei ddyrchafu yn dux, a chredir mai ef a anfonwyd i Armorica gan Pertinax i ddelio a gwrthryfel aral. Pan ymddeolodd o'r fyddin daeth yn procurator centenaris (rhaglaw) Liburnia, rhan o Dalmatia. .
Awgrymodd Kemp Malone yn 1924 mai ef oedd sail y chwedlau am Arthur. Cysylltir Arthur ag ymosodiadau y Sacsoniaid yn y 5g, llawer diweddarch na chyfnod Artorius, ond efallai i chwedlau amdano barhau ar gôf gwlad.