Canwriad

Oddi ar Wicipedia
Canwriad o tua 70 OC.

Roedd canwriad (Lladin: centuriō; Groeg: hekatontarchos) yn swyddog proffesiynol yn y fyddin Rufeinig. Crewyd y swydd yn ystod newidiadau Marius yn 107 CC. Roedd y rhan fwyaf o ganwriaid yn gyfrifol am ganrif (centuria) o 80 o filwyr, ond roedd y prif ganwriaid yn swyddogion pwysig mewn Lleng Rufeinig.

Roedd gwahanol raddfeydd o ganwriaid, yn dibynnu ar raddfa y cohors yr oeddynt yn gwasanaethu ynddynt a safle eu canrif hwy o fewn y cohors. Y canwriaid uchaf eu gradd oedd canwriaid y Cohors Gyntaf, a elwid y Primi Ordines, pob un yn gyfrifol am ganrif ddwbl o 120 o filwyr. Y prif ganwriad mewn lleng oedd y Primus Pilus, oedd yn gyfrifol am y ganrif gyntaf yn y cohors gyntaf, ac a oedd yn un o swyddogion pwysicaf y lleng.

Ystyrid y canwriaid yn asgwrn cefn y fyddin Rufeinig. Disgwylid iddynt arwain o'r tu blaen, ac fel rheol byddai cyfran uwch o'r canwriaid yn cael eu lladd neu eu clwyfo mewn brwydr na'r milwyr cyffredin. Roedd rhai canwriaid yn codi o'r rhengoedd, eraill yn cael eu hapwyntio'n ganwriaid yn uniongyrchol.

Roedd pob canwriad yn cario ffon, fel symbol o'i swydd. Fodd bynnag, nid symbol yn unig oedd, a byddent yn ei defnyddio i gystwyo unrhyw filwr oedd yn eu tŷb hwy yn ei haeddu. Mae'r hanesydd Tacitus yn rhoi hanes am un canwriad a enillodd y llysenw "Dewch ag un arall", gan y byddai'n aml yn torri ei ffon ar gefn milwr, ac yna'n galw am ffon arall.