Lowri ferch Gruffudd Fychan

Oddi ar Wicipedia

Chwaer iau Owain Glyn Dŵr, Tywysog Cymru, oedd Lowri ferch Gruffudd Fychan (bl. tua diwedd y 1360au - tua'r 1430au?).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Roedd Lowri yn ferch i Gruffudd Fychan II, etifedd llinach Powys, ac Elen ferch Tomos ap Llywelyn. Gan fod Gruffudd wedi marw yn 1369 mae'n debyg y ganed Lowri rywbryd yn y 1360au. Priododd hi Robert Puleston, uchelwr Cymreig o dras Normanaidd ac un o brif gynghreiriaid Glyn Dŵr yn y Gwrthryfel. Priodas wleidyddol oedd hyn.

Plant[golygu | golygu cod]

Cawsont fab o'r enw John Puleston; cofnodir profi ei ewyllys yn 1444. Priododd John Angharad, un o ferched Gruffudd Hanmer, o'r un teulu â gwraig Glyn Dŵr, Margaret Hanmer. Roedd Angharad yn wyres i Gronw ap Tudur, un o deulu Tuduriaid Môn. Roedd mab arall, Roger Puleston (m. 1469), yn gynghreiriad sicr i Siasbar Tudur, Iarll Penfro, a gadwodd Gastell Dinbych iddo yn 1460 a 1461 yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau.



Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.