Robert Puleston
Jump to navigation
Jump to search
Robert Puleston | |
---|---|
Bu farw |
15G ![]() |
Tad |
Sir Richard Puleston, of Emral ![]() |
Mam |
Lleucu ferch Madog Foel ab Ieuaf ap Llywelyn ap Cynwrig Efell ap Madog ap Maredudd ap Bleddyn ap Cynfyn ![]() |
Priod |
Lowri ferch Gruffudd Fychan ![]() |
Plant |
Angharad Puleston, Madog Puleston, of Cristionydd, Eleanor|Elen Puleston ![]() |
Tirfeddiannwr Cymreig a brawd-yng-nghyfraith Owain Glyn Dŵr oedd Robert Puleston (fl. 1380–1410).
Roedd Robert Puleston yn fab i Richard Puleston o Emral ym Maelor Saesneg, ac yn aelod o deulu amlwg yng ngogledd Cymru ar gororau. Yn 1386, roedd ef ac Owain Glyn Dŵr yn dystion yn achos Scrope v Grosvenor yng Nghaer. Rywbryd tua'r adeg yma, priododd Lowri ferch Gruffudd Fychan, chwaer Glyn Dŵr.
Cefnogodd wrthryfel Owain, a fforffedodd ei stadau yn siroedd Caer, Amwythig a'r Fflint o ganlyniad. Yn ddiweddarach, adferwyd ei diroedd iddo.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]