Loretta Lynn

Oddi ar Wicipedia
Loretta Lynn
GanwydLoretta Webb Edit this on Wikidata
14 Ebrill 1932 Edit this on Wikidata
Butcher Hollow Edit this on Wikidata
Bu farw4 Hydref 2022 Edit this on Wikidata
Hurricane Mills Edit this on Wikidata
Label recordioDecca Records, Zero Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Galwedigaethcanwr-gyfansoddwr, gitarydd, fiolinydd, artist recordio, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amI'm a Honky Tonk Girl, Still Woman Enough, Loretta Lynn Sings Edit this on Wikidata
Arddullcanu gwlad, honky tonk, cerddoriaeth yr efengyl Edit this on Wikidata
PriodOliver Lynn Edit this on Wikidata
Gwobr/auCountry Music Association Award for Female Vocalist of the Year, Grammy Award for Best Country Performance by a Duo or Group with Vocal, Country Music Association Award for Female Vocalist of the Year, Country Music Association Award for Female Vocalist of the Year, American Music Award for Favorite Country Band/Duo/Group, American Music Award for Favorite Country Female Artist, American Music Award for Favorite Country Band/Duo/Group, American Music Award for Favorite Country Female Artist, American Music Award for Favorite Country Band/Duo/Group, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Teilyngdod Cerddoriaeth yn America, Anrhydedd y Kennedy Center, Gwobr Goffa Menywod Kentucky, Gwobr Grammy am yr Albwm Canu Gwlad Gorau, Grammy Award for Best Country Collaboration with Vocals, Americana Award for Artist of the Year, Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Americana Lifetime Achievement Award for Songwriting, Willie Nelson Lifetime Achievement Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://lorettalynn.com/ Edit this on Wikidata

Roedd Loretta Lynn (ganwyd Loretta Webb; 14 Ebrill 1932[1]4 Hydref 2022) yn gantores-gyfansoddwr canu gwlad Americanaidd. Roedd yn enwog am caneuon fel "You Ain't Woman Enough (To Take My Man)", "Don't Come Home A-Drinkin' (With Lovin' on Your Mind)", "One's on the Way", "Fist City", ac "Coal Miner's Daughter" ynghyd â ffilm fywgraffyddol 1980 o'r un enw. Cafodd yrfa dros 60 mlynedd gyda nifer o albymau aur.

Derbyniodd Lynn nifer o wobrau ac anrhydeddau am ei rôl arloesol mewn myd cerddoriaeth gwlad, gan gynnwys gwobrau gan y Country Music Association a'r Academy of Country Music fel partner deuawd ac artist unigol. Hi oedd yr artist recordio cerddoriaeth gwlad benywaidd mwyaf gwobrwyedig a'r unig Artist y Degawd ACM (1970au) benywaidd. Yn ei gyrfa aeth 24 o'i senglau i rhif 1 ac aeth 11 albwm i rhif 1. Parhaodd Lynn i berfformio ar daith mewn i'w 80au ond daeth 57 mlynedd o deithio i ben ar ôl iddi gael strôc yn 2017 ac yna torrodd ei chlun yn 2018.

Blynyddoedd Cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Lynn fel Loretta Webb ar 14 Ebrill 1932 yn Butcher Hollow, Kentucky. Hi yw'r ferch hynaf a'r ail blentyn a anwyd i Clara Marie "Clary" (g. Ramey; Mai 5, 1912 – Tachwedd 24, 1981) a Melvin Theodore "Ted" Webb (6 Mehefin 1906 – 22 Chwefror 1959). Glöwr a ffermwr oedd Ted.[2] Cafodd ei henwi ar ôl y seren ffilm Loretta Young. Y plant Webb eraill:

  • Webb "Junior" Melvin (4 Rhagfyr 1929 – 1 Gorffennaf 1993)
  • Herman Webb (3 Medi 1934 – 28 Gorffennaf 2018)
  • Willie "Jay" Lee Webb (12 Chwefror 1937 – 31 Gorffennaf 1996)
  • Donald Ray Webb (2 Ebrill 1941 – 13 Hydref 2017)
  • Peggy Sue Wright (g. Webb; ganwyd 25 Mawrth 1943)
  • Betty Ruth Hopkins (g. Webb; ganwyd 1946)
  • Crystal Gayle (ganwyd Brenda Gail Webb; 9 Ionawr 1951)

Bu farw tad Loretta yn 52 oed o glefyd yr ysgyfaint du ychydig o flynyddoedd ar ôl iddo symud i Wabash, Indiana, gyda'i wraig a'i blant iau.

Trwy teulu ei mam, mae Lynn yn gefnither i'r gantores wlad Patty Loveless (g. Ramey), a hefyd i Venus Ramey, Miss America yn 1944.

Y llwybr i lwyddiant[golygu | golygu cod]

Ar 10 Ionawr 1948, priododd Loretta Webb pan oedd yn 15 oed, i Oliver Vanetta "Doolittle" Lynn (27 Awst 1926 – 22 Awst 1996), a yw'n fwy adnabyddus fel "Doolittle", "Doo", neu "Mooney".[3] Roeddent wedi cyfarfod fis yn gynharach.[1] Gadawodd y Lynns Kentucky a symud i gymuned logio Custer, Washington, pan oedd Loretta saith mis yn feichiog gyda'r cyntaf o'u chwe phlentyn.[2] Byddai hapusrwydd a thorcalon blynyddoedd cynnar ei phriodas yn helpu i ysbrydoli ysgrifennu caneuon Lynn.[4] Yn 1953, prynodd Doolittle gitâr Harmony iddi am $17.[5] Dysgodd ei hun i chwarae'r offeryn, a dros y tair blynedd ganlynol, gweithiodd i wella ar y gitâr. Gydag anogaeth Doolittle, dechreuodd hi ei band ei hun, "Loretta and the Trailblazers", gyda'i brawd Jay Lee yn chwarae'r prif gitâr. Roedd hi'n ymddangos yn aml yn Bill's Tavern yn Blaine, Washington, a Neuadd Delta Grange yn Custer, Washington, gyda band y "Pen Brothers" a'r "Westerneers". Recordiodd ei record gyntaf, "I'm a Honky Tonk Girl", ym mis Chwefror 1960.[6]

Daeth yn rhan o'r sin gerddoriaeth wlad yn Nashville yn y 1960au. Yn 1967, cafodd ei chyntaf o 16 cân rhif 1, allan o 70 o ganeuon siart fel artist unigol a rhan o ddeuawd.[7] Ymhlith ei lwyddiannau diweddarach yw "Don't Come Home A' Drinkin' (With Lovin' on Your Mind)", "You Ain't Woman Enough", "Fist City", a "Coal Miner's Daughter".[8]

Canolbwyntiodd Lynn ar faterion menywod "blue-collar" gyda themâu am wŷr menwotgar a meistresi. Ysbrydolwyd ei cherddoriaeth gan faterion a wynebodd yn ei phriodas. Gwthiodd ffiniau yn y genre gerddoriaeth gwlad ceidwadol trwy ganu am reoli genedigaeth ("The Pill"), geni tro ar ôl tro ("One's on the Way"), safonau dwbl ar gyfer dynion a menywod ("Rated 'X'"), a colli gŵr yn ystod Rhyfel Fietnam ("Dear Uncle Sam").[9]

Byddai gorsafoedd radio cerddoriaeth gwlad yn aml yn gwrthod chwarae ei cherddoriaeth, yn wahardd naw o’i chaneuon, ond gwthiodd Lynn ymlaen i ddod yn un o artistiaid chwedlonol cerddoriaeth gwlad.

Cafodd ei hunangofiant 1976, Coal Miner's Daughter, ei wneud yn ffilm o'r un teitl yn 1980 gyda Sissy Spacek a Tommy Lee Jones. Enillodd Spacek Wobr yr Academi am yr Actores Orau am ei rôl fel Lynn. Cynhyrchwyd ei halbwm Van Lear Rose, a ryddhawyd yn 2004, gan y cerddor roc Jack White. Enwebwyd Lynn a White am bum Grammy ac enillwyd dwy.[10][11]

Mae Lynn wedi derbyn nifer o wobrau mewn cerddoriaeth wlad ac Americanaidd. Cafodd ei sefydlu yn y Nashville Songwriters Hall of Fame yn 1983, y Country Music Hall of Fame yn 1988, ac y Songwriters Hall of Fame yn 2008, ac fe’i hanrhydeddwyd yn 2010 yn y Country Music Awards. Derbynodd Medal Rhyddid yr Arlywydd gan yr Arlywydd Barack Obama yn 2013.[12] Mae Lynn wedi bod yn aelod o'r Grand Ole Opry ers ymuno ar 25 Medi 1962. Roedd ei hymddangosiad cyntaf ar y Grand Ole Opry ar 15 Hydref 1960. Mae Lynn wedi recordio 70 albwm, gan gynnwys 54 albwm stiwdio, 15 casgliad, ac un albwm teyrnged.[13][14]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Plant ac wyrion[golygu | golygu cod]

Cafodd Loretta a Doolittle “Mooney” Lynn chwech o blant gyda’i gilydd:

  • Betty Sue Lynn (26 Tachwedd 1948 – 29 Gorffennaf 2013)[15][16]
  • Jack Benny Lynn (7 Rhagfyr 1949 – 22 Gorffennaf 1984)[17]
  • Clara Marie "Cissie" Lynn (ganwyd 7 Ebrill 1952)
  • Ernest Ray "Ernie" Lynn (ganwyd 27 Mai 1954)
  • Peggy Jean a Patsy Eileen Lynn (ganwyd 6 Awst 1964; efeilliaid a enwyd ar ôl chwaer Lynn, Peggy Sue Wright, a'i ffrind, Patsy Cline).

Bu farw mab Lynn, Jack Benny, yn 34 oed ar 22 Gorffennaf 1984, wrth geisio rhydio Duck River yn ransh y teulu yn Hurricane Mills, Tennessee. Yn 2013, bu farw merch Loretta, Betty Sue, yn 64 oed o emffysema ger ransh Loretta yn Hurricane Mills.[16] Dwy flynedd ar ôl enedigaeth ei efeilliaid Peggy a Patsy, daeth Lynn yn fam-gu yn 34 oed.

Problemau priodasol[golygu | golygu cod]

Roedd Lynn yn briod am bron i 50 mlynedd nes i'w gŵr farw yn 69 oed ym 1996. Yn ei hunangofiant yn 2002 Still Woman Enough, ac mewn cyfweliad â CBS News yr un flwyddyn, adroddodd sut roedd ei gŵr yn twyllo arni’n reolaidd ac unwaith yn ei gadael tra roedd hi’n geni plentyn.[18] Roedd Lynn a'i gŵr yn ymladd yn aml, ond dywedodd "he never hit me one time that I didn't hit him back twice". Mae Loretta wedi dweud bod ei phriodas yn "un o'r straeon serch anoddaf".[19]

Cartrefi[golygu | golygu cod]

Mae Lynn yn berchen ar ransh yn Hurricane Mills, Tennessee, a elwir "y Seithfed Atyniad Mwyaf yn Nhennessee". Mae'n cynnwys stiwdio recordio, amgueddfeydd, llety, bwytai a siopau 'western;. Yn draddodiadol, mae tri chyngerdd gwyliau yn cael eu cynnal yn flynyddol yn y ransh, Penwythnos y Diwrnod Coffa, Penwythnos y Pedwerydd o Orffennaf, a Phenwythnos y Diwrnod Llafur.[20]

Ers 1982, mae'r ranch wedi cynnal ras motocrós Pencampwriaeth Amatur Loretta Lynn, y ras motocrós amatur fwyaf o'i math. Mae'r ranch hefyd yn cynnal digwyddiadau Rasio GNCC. Canolbwynt y ranch yw ei gartref ystâd planhigfa mawr yr oedd Lynn yn byw ynddo gyda'i gŵr a'i phlant ar un adeg. Dydy hi heb fwy yn y plasty antebellwm hyn ers mwy na 30 mlynedd. Mae Lynn yn aml yn cyfarch ffans sy'n ymweld a'r tŷ. Hefyd mae'r ystâd yn cynnwys replica o'r caban y cafodd Lynn ei fagu ynddo yn Butcher Hollow, Kentucky.[20][21]

Yn y 1970au, prynodd Lynn gartref ym Mecsico. MAe Lynn a'i gŵr hefyd wedi prynu caban yng Nghanada.

Iechyd[golygu | golygu cod]

Ym mis Mai 2017, cafodd Lynn strôc yn ei chartref yn Hurricane Mills, Tennessee. Aeth i ysbyty yn Nashville ac wedi hynny bu’n rhaid iddi ganslo ei holl ddyddiadau taith i ddod. Gohiriwyd rhyddhau ei halbwm newydd Wouldn't It Be Great tan 2018. Yn ôl ei gwefan, mae disgwyl iddi wella'n llwyr.[22] Ar 1 Ionawr 2018, cwympodd Lynn a thorri ei chlun.[23] Bu farw yn ei chartref yn Hurricane Mills.[24]

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod]

Yr uchafbwynt ei phoblogrwydd, gwaharddwyd rhai o ganeuon Lynn rhag chwarae ar y radio, gan gynnwys "Rated 'X'", am y safonau dwbl y mae menywod sydd wedi ysgaru yn eu hwynebu; "Wings Upon Your Horns", am golli gwyryfdod yn eich harddegau; a "The Pill", gyda geiriau gan TD Bayless, am wraig a mam yn cael ei rhyddhau gan y bilsen rheoli genedigaeth . Mae ei chân "Dear Uncle Sam", a ryddhawyd yn 1966, yn ystod Rhyfel Fietnam, yn disgrifio cyfyngder gwraig wrth golli gŵr i ryfel. Cafodd ei gynnwys mewn perfformiadau byw yn ystod cyfnod Rhyfel Irac.[25]

Ym 1971, Lynn oedd yr artist gwlad benywaidd unigol cyntaf i berfformio yn y Tŷ Gwyn, ar wahoddiad yr Arlywydd Richard Nixon. Dychwelodd yno i berfformio yn ystod gweinyddiaethau Jimmy Carter, Ronald Reagan, George H. W. Bush a George W. Bush. Nododd Lynn yn gynnar yn 2016 ei bod yn cefnogi Donald Trump yn ei rediad ar gyfer yr arlywyddiaeth.[26]

Er bod Lynn wedi bod yn ddirmygus am ei barn ar bynciau cymdeithasol a gwleidyddol dadleuol, dywedodd, "Nid wyf yn hoffi siarad am bethau lle rydych chi'n mynd i gael un ochr neu'r llall yn anhapus. Nid oes gwleidyddiaeth yn fy ngherddoriaeth."[27] Yn ei hunangofiant, dywedodd Lynn fod ei thad yn Weriniaethwr a'i mam yn Democrat.

Pan ofynnwyd iddi am ei safbwynt ar briodas o'r un rhyw gan USA Today ym mis Tachwedd 2010, atebodd, "Rwy'n dal yn ferch o'r hen Beibl. Dywedodd Duw fod angen i chi fod yn fenyw ac yn ddyn, ond pawb i'w pennau eu hunain."[28] Cymeradwyodd[29] ac ymgyrchodd[30] dros George HW Bush yn yr etholiad arlywyddol ym 1988.[31]

Yn Still Woman Enough yn 2002, trafododd ei chyfeillgarwch a'i chefnogaeth at Jimmy Carter.[32] Yn ystod yr un cyfnod, gwnaeth ei hunig rodd wleidyddol a gofnodwyd, $4,300, i ymgeiswyr Gweriniaethol a PACs wedi'u halinio i'r Weriniaethwyr.

Dyfarnwyd Medal Rhyddid yr Arlywydd i Lynn gan Barack Obama yn 2013.[33]

Tra’n eiriolwr cydnabyddedig "dros ferched cyffredin,” mae Lynn yn aml wedi beirniadu ffeministiaeth dosbarth uwch am anwybyddu anghenion a phryderon menywod dosbarth gweithiol.[2] Dywedodd unwaith, "Nid wyf yn ffan mawr o ryddhad menywod, ond efallai y bydd yn helpu menywod i sefyll dros y parch sy'n ddyledus iddynt".

Caniataodd Lynn i PETA ddefnyddio'i chân "I Wanna Be Free" mewn ymgyrch gwasanaeth cyhoeddus i annog peidio cadwyno cŵn y tu allan.[34]

Disgograffeg[golygu | golygu cod]

Albymau stiwdio

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Loretta Lynn Married at 15, Not 13; 80-Years-Old Not 77". Associated Press. 18 Mai 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-07. Cyrchwyd 2 Ionawr 2016.
  2. 2.0 2.1 2.2 "WELCOME 2017". LorettaLynn.com. Cyrchwyd 11 Chwefror 2019.
  3. "AP: Country singer Loretta Lynn married at 15, not 13". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-07. Cyrchwyd 2019-11-02.
  4. Profile Archifwyd 2017-10-20 yn y Peiriant Wayback., lubbockonline.com; accessed 18 Gorffennaf 2015.
  5. Rhodes, Don (8 Mehefin 2011). "Lynn's road to stardom started with $17 guitar". The Augusta Chronicle. Cyrchwyd 4 Ionawr 2016.
  6. "Loretta Lynn – Biography". 3 Rhagfyr 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-23. Cyrchwyd 23 Medi 2016.
  7. "Country Music – Music News, New Songs, Videos, Music Shows and Playlists from CMT". Cmt.com. Cyrchwyd 11 Chwefror 2019.
  8. Coal Miner's Daughter, t. 73.
  9. Thanki, Juli. "20 Most Controversial Songs by Women". Engine 145. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Ebrill 2014. Cyrchwyd 6 Ebrill 2014.
  10. "Grammy.com". The Recording Academy. Cyrchwyd 6 Ebrill 2014.
  11. "Loretta Lynn - Love Is The Foundation" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-16. Cyrchwyd 30 Hydref 2018.
  12. Branigin, William (20 Tachwedd 2013). "Presidential Medal of Freedom honors diverse group of Americans". Washington Post (yn Saesneg). ISSN 0190-8286. Cyrchwyd 17 Ionawr 2018.
  13. "Discography". LorettaLynn.com. Cyrchwyd 9 Tachwedd 2015.
  14. "Loretta Lynn - Releases - MusicBrainz". musicbrainz.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-01-17.
  15. Notice of death of Betty Sue Lynn, musicrow.com, Gorffennaf 2013; accessed 4 Mai 2014.
  16. 16.0 16.1 "Betty Sue Lynn Dead: Loretta Lynn's Oldest Daughter Dies In Tennessee". The Huffington Post. 30 Gorffennaf 2013. Cyrchwyd 3 Ebrill 2016.
  17. "A Stricken Coal Miner's Daughter Mourns the Drowning of Her Favorite Son". People 22 (7). 13 Awst 1984. http://www.people.com/people/archive/article/0,,20088433,00.html. Adalwyd 3 Ebrill 2016.
  18. "Legends: Loretta Lynn Tells All". CBS News. 27 Rhagfyr 2002. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-02. Cyrchwyd 4 Chwefror 2007. Her autobiography recounts how once, in a drunken rage, he smashed many jars full of vegetables she had painstakingly canned.
  19. Lynn 2002.
  20. 20.0 20.1 "Loretta Lynn official website". LorettaLynn.com. Cyrchwyd 15 Ebrill 2014.
  21. Tuttle, Andrew (28 Gorffennaf 2014). "A Bit of Loretta Lynn's Motocross History". MotoSports.com. Cyrchwyd 14 Gorffennaf 2018.
  22. Thanki, Juli (5 Mai 2017). "Loretta Lynn hospitalized after stroke". USA Today. Cyrchwyd 6 Mai 2017.
  23. "Loretta Lynn In 'Great Spirits' After Breaking Hip in Fall at Home". PEOPLE.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Ionawr 2018.
  24. Kristin M. Hall  (4 Hydref 2022). "Loretta Lynn, coal miner's daughter and country queen, dies" (yn Saesneg). Washington, D.C. ISSN 0190-8286. OCLC 1330888409. Unknown parameter | publisher= ignored (help)
  25. "Van Lear Rose" Archifwyd 2007-02-06 yn y Peiriant Wayback.; accessed 4 Chwefror 2007.
  26. Flitter, Emily (9 Ionawr 2016). "Country Musician Loretta Lynn to Trump: Call Me". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-12. Cyrchwyd 14 Ionawr 2016.
  27. "Loretta Lynn Quotes". BrainyQuote. Cyrchwyd 9 Tachwedd 2012.
  28. Nash, Alanna (4 Tachwedd 2010). "The Once and Future Queen of Country". USA Weekend. Cyrchwyd 4 Ionawr 2016.[dolen marw]
  29. Seifert, Erica J. (2012). The Politics of Authenticity in Presidential Campaigns, 1976–2008. McFarland. tt. 108–109. ISBN 9780786491094.
  30. Kilian, Pamela (2003). Barbara Bush: Matriarch of a Dynasty. Macmillan. t. 111. ISBN 9780312319700.
  31. Weinraub, Bernard (29 Medi 1988). "Campaign Trail; Country Singers Stand by Their Man". The New York Times. Cyrchwyd 4 Ionawr 2016.
  32. Loretta Lynn, Still Woman Enough: A Memoir (New York: Hyperion, 2002)
  33. Lynn awarded the Presidential Medal of Freedom, whitehouse.gov; accessed 4 Medi 2014.
  34. "Loretta Helps Furry Friends" Archifwyd 2013-10-13 yn y Peiriant Wayback.. LorettaLynn.com. 24 Hydref 2005.