Lolita
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Awdur | Vladimir Nabokov |
| Cyhoeddwr | Olympia Press, G. P. Putnam's Sons, Weidenfeld & Nicolson, Fawcett Publications |
| Iaith | Saesneg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1955 |
| Dechrau/Sefydlu | 1950s |
| Genre | comedi trasig, metaffuglen, confessional fiction, editorial fiction, erotica, ffuglen dditectif |
| Cymeriadau | Dolores Haze, Humbert Humbert, Clare Quilty, Charlotte Haze, Annabel Leigh, Valeria Zborovski, Richard Schiller, Jean Farlow, John Farlow, Gaston Godin, Rita, John Ray, Jr, Vivian Darkbloom |
| Lleoliad cyhoeddi | Ffrainc |
| Prif bwnc | solipsism, moesoldeb, artistic creation, child abuse, hebephilia, pedoffilia |
| Statws hawlfraint | dan hawlfraint |
| Lleoliad y gwaith | Unol Daleithiau America, Lloegr Newydd |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/04h3p |
- Gweler hefyd Lolita (gwahaniaethu).

Nofel gan Vladimir Nabokov yw Lolita (1955). Ysgrifennwyd y nofel yn Saesneg a'i chyhoeddi yn 1955 ym Mharis; yn ddiweddarach cyfieithodd Nabokov y gwaith i'w Rwseg frodorol a'i chyhoeddi yn 1967 yn Efrog Newydd. Mae'r nofel yn enwog ledled y byd am ei harddull arloesol a'i thestun tra dadleuol, sef obsesiwn rhywiol arwr ac adroddwr y stori Humbert Humbert am ferch ddeuddeg oed o'r enw Dolores Haze ('Lolita' y teitl).
Ar ôl ei chyhoeddi, daeth y nofel yn glasur modern yn yr iaith Saesneg, gan ddod yn un o lyfrau mwyaf adnabyddus a dadleuol llenyddiaeth yr 20g. Daeth yr enw "Lolita" yn rhan o ddiwylliant poblogaidd cyfoes i ddisgrifio merch ifanc ymwybodol o'i rhywioldeb.
Mae'r nofel wedi cael ei haddasu ar gyfer y sgrin fawr ddwywaith; yn gyntaf yn 1962 yn y ffilm gan Stanley Kubrick gyda James Mason fel Humbert Humbert, ac eto yn 1997 gan Adrian Lyne, yn serennu Jeremy Irons.