Vladimir Nabokov
| Vladimir Nabokov | |
|---|---|
| Ffugenw | ვლადიმერ სირინი, Vladimir Sirin, Владимир Сирин |
| Ganwyd | 10 Ebrill 1899 (yn y Calendr Iwliaidd) St Petersburg |
| Bu farw | 2 Gorffennaf 1977 o clefyd Montreux |
| Man preswyl | Montreux, Ashland, St Petersburg, Berlin, Paris, Cannes, Menton, Livadiya, Caergrawnt, Prag, Antibes, Fréjus, Manhattan, Wellesley, Cambridge, Ithaca, Chauncy Street |
| Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | nofelydd, bardd, ysgrifennwr, swolegydd, cyfieithydd, dramodydd, hunangofiannydd, sgriptiwr, gwyfynegwr, academydd, beirniad llenyddol, newyddiadurwr, awdur ffuglen wyddonol, arbenigwr gwyddbwyll, chwaraewr gwyddbwyll, ysgolhaig llenyddol, pryfetegwr, llenor dysgedig |
| Cyflogwr |
|
| Adnabyddus am | The Defense, The Real Life of Sebastian Knight, Lolita, Pale Fire, Speak, Memory, Ada or Ardor: A Family Chronicle |
| Arddull | dychan, gwyddonias, ffuglen ramantus |
| Mudiad | moderniaeth |
| Tad | Vladimir Dmitrievich Nabokov |
| Mam | Yelena Rukavishnikova |
| Priod | Véra Nabokov |
| Plant | Dmitri Nabokov |
| Perthnasau | Serge Nabokov, Vladimír Petkevič |
| Llinach | House of Nabokov |
| Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim |
| Chwaraeon | |
| Gwlad chwaraeon | Unol Daleithiau America |
| llofnod | |
Llenor amryddawn a thoreithiog yn Rwseg a Saesneg oedd Vladimir Nabokov (22 Ebrill 1899 - 2 Gorffennaf 1977).[1] Cafodd ei eni yn St Petersburg i deulu Rwsiaidd uchelwrol. Cafodd Nabokov ei addysg ym Mhrifysgol Caergrawnt a bu'n byw yn Ffrainc a'r Almaen cyn symud i fyw yn yr Unol Daleithiau yn 1945 a mabwysiadu dinesyddiaeth Americanaidd. Ysgrifennodd nifer o nofelau, cerddi, straeon byrion a gweithiau eraill yn Rwseg a Saesneg ond fe'i gofir yn bennaf am ei nofel ddadleuol ond tra llwyddiannus Lolita (1955). Roedd yn gyfaill i'r awdur o Wyddel James Joyce.

Nofelau Saesneg
[golygu | golygu cod]- (1941) The Real Life of Sebastian Knight
- (1947) Bend Sinister
- (1955) Lolita
- (1957) Pnin
- (1962) Pale Fire
- (1969) Ada or Ardor: A Family Chronicle
- (1972) Transparent Things
- (1974) Look at the Harlequins!
- (1977) The Original of Laura (anorffenedig)
Nabokov y naturiaethwr
[golygu | golygu cod]Roedd Nabokov yn ddyn amryddawn iawn. Wyddoch bod yr awdur enwog amlieithog hwn o Rwsia a ysgrifennodd y nofel Lolita hefyd yn entomolegydd o fri? Disgrifiodd sawl rhywogaeth o loÿnnod byw ac fe enwyd un ar ei ôl (Echinárgus NABOKOV 1945 [Lycáenidae]: a genus of butterflies named by Vladimir Nabokov) Archifwyd 2017-10-04 yn y Peiriant Wayback[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ McCrum, Robert (25 Hydref 2009). "The Final Twist in Nabokov's Untold Story". The Observer (yn Saesneg) – drwy theguardian.com.
- ↑ Bwletin Llên Natur rhifyn 36