Llynnau Duweunydd

Oddi ar Wicipedia
Llynnau Duweunydd
Mathllyn, cronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDolwyddelan Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd0.1613 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr365 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.064618°N 3.966039°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH6850053700 Edit this on Wikidata
Rheolir ganRWE Generation UK PLC Edit this on Wikidata
Map

Dau lyn cyfagos yn Eryri yw Llynnau Duweunydd (neu Diwaunedd, Diwaunydd). Safant i'r de-orllewin o fynydd Moel Siabod ac i'r gogledd-ddwyrain o gopa is Carnedd y Cribau yng nghymuned Dolwyddelan ym mwrdeisdref sirol Conwy.

Llifa Afon Diwaunedd o'r llyn i gyfeiriad y de i ymuno â Cheunant Ty'n-y-ddôl, sy'n ymuno ag Afon Lledr ger Blaenau Dolwyddelan (Roman Bridge).

Mae'r ddau lyn bron yn cyffwrdd ei gilydd, a gellir croesi yn y man culaf ar hyd sarn o gerrig. Symudwyd rhai o'r Torgochiaid oedd yn Llyn Peris yma pan adeiladwyd Gorsaf Bŵer Dinorwig.

Llynnau Diwaunedd

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]