Llynnau Diwaunedd
Jump to navigation
Jump to search
Math |
llyn ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.065227°N 3.966753°W ![]() |
![]() | |
Dau lyn cyfagos yn Eryri yw Llynnau Diwaunedd (amrywiadau: Llynnau Diwaunydd, Llynnau Duwaunydd). Safant i'r de-orllewin o fynydd Moel Siabod ac i'r gogledd-ddwyrain o gopa is Carnedd y Cribau yng nghymuned Dolwyddelan ym mwrdeisdref sirol Conwy.
Llifa Afon Diwaunedd o'r llyn i gyfeiriad y de i ymuno a Ceunant Ty'n-y-ddôl, sy'n ymuno ag Afon Lledr ger Blaenau Dolwyddelan (Roman Bridge).
Mae'r ddau lyn bron yn cyffwrdd ei gilydd, a gellir croesi yn y man culaf ar hyd sarn o gerrig. Symudwyd rhai o'r Torgochiaid oedd yn Llyn Peris yma pan adeiladwyd Gorsaf Bŵer Dinorwig.