Llyn Trasimeno
![]() | |
Math | llyn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Umbria ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 128 km² ![]() |
Uwch y môr | 258 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 43.14°N 12.1°E ![]() |
Dalgylch | 396 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd | 16.1 cilometr ![]() |
![]() | |

Llyn yn Umbria yng nghanolbarth yr Eidal yw Llyn Trasimeno neu Llyn Trasimene (Eidaleg: Lago Trasimeno). Saif 15 km i'r gorllewin o ddinas Periwgia, 258 medr uwch lefel y môr. Mae ei arwynebedd yn 128 km2, a'i ddyfnder yn 7 medr yn y man dyfnaf. Y trefi ger ei lan yw Tuoro sul Trasimeno, Passignano sul Trasimeno, Magione a Castiglione del Lago. Ef yw pedwerydd llyn yr Eidal o ran maint; dim ond Llyn Garda, Llyn Maggiore a Llyn Como sy'n fwy.
Ceir tair ynys yn y llyn: Isola Maggiore, Isola Minore a Isola Polvese. Yn 217 CC, bu brwydr enwog, Brwydr Llyn Trasimene, ar lan ogleddol y llyn rhwng byddinoedd Gweriniaeth Rhufain a Carthago ger y llyn, pan ddinistriwyd byddin Rufeinig yn llwyr gan Hannibal.