Llyn Como
| Math | glacial lake |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | llynnoedd Gogledd yr Eidal |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 145 km² |
| Uwch y môr | 198 metr |
| Cyfesurynnau | 46°N 9.2667°E |
| Dalgylch | 4,572 cilometr sgwâr |
| Hyd | 46 cilometr |
| Cadwyn fynydd | Alpau |
![]() | |
Llyn yng ngogledd yr Eidal yw Llyn Como (Eidaleg: Lago di Como neu Lario). Gydag arwynebedd o 146 km², ef yw ail lyn yr Eidal o ran maint. Mae'n 410 medr o ddyfnder yn ei ran ddyfnaf, ac felly dyma'r llyn dyfnaf yr Eidal.
Saif y llyn ger Llyn Maggiore a Llyn Lugano, mewn ardal fynyddig, yn agos i'r ffin â'r Swistir, 198 medr uwch lefel y môr. Yr uchaf o'r mynyddoedd o'i gylch yw Monte Legnone (2609 m).
Yr afon fwyaf sy'n llifo i'r llyn yw afon Adda, sy'n dod i mewn iddo yn y gogledd, ger Colico ac yn llifo allan yn y de-ddwyrain ger Lecco.
Ceir ynys fechan, Isola Comacina, yn y llyn.
Y dref fwyaf ar lan y llyn yw Como. Ynhlith y trefi eraill y mae Cernobbio, Gravedona, Bellano, Varenna, Bellagio a Menaggio. Mae cymunedau Varenna, Lierna, Bellagio, Menaggio, Limonta a Tremezzo, yn cynnwys pentrefi sydd â golygfa o benrhyn Bellagio, yn ffurfio’r ardal ddaearegol o Centro Lago, sy'n cael ei hystyried fel y rhan fwyaf dethol o Lyn Como. Ymhlith y lleoliadau mwyaf ecsgliwsif ar lan Llyn Como mae Lierna, pentref hynafol sydd â'r olygfa fwyaf ddramatig o'r llyn, wedi'i leoli'n union gyferbyn â phenrhyn Bellagio.


