Llyn Perfeddau

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llyn Perfeddau
Math llyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Cymru Cymru
Gerllaw Afon Cwmnantcol Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.81847°N 3.991399°W Edit this on Wikidata

Llyn bychan yn ne Gwynedd yw Llyn Perfeddau. Fe'i lleolir ym mynyddoedd y Rhinogau, rhwng Y Llethr a Rhinog Fach, yn ardal Ardudwy, Meirionnydd. Mae'n gorwedd tua 460 metr uwch lefel y môr.

Llyn Perfeddau dan rew ym mis Mawrth.
Llyn Perfeddau, o lethrau'r Llethr.

Llyn Perfeddau yw prif darddle Afon Cwmnantcol, sy'n llifo ohono i gyfeiriad y gogledd-orllewin. Ymuna ffrwd arall â'r afon ger Bwlch Drws Ardudwy ac wedyn mae'n llifo ar gwrs gorllewinol i lawr Cwm Nantcol ei hun.

Tua milltir a hanner i'r gorllewin o'r llyn ceir ffermdy hen Maesygarnedd, cartref John Jones, Maesygarnedd (1597–1660), un o'r gwŷr a arwyddodd warant marwolaeth y brenin Siarl I o Loegr a brawd-yng-nghyfraith i Oliver Cromwell, Arglwydd Amddiffynydd Lloegr.

WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato