Llyn Cwm Corsiog

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llyn Cwm Corsiog
Math llyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Llyn Cwm Corsiog gyda'r Moelwyn Mawr yn y pellter.

Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Cwm Corsiog. Mae'n un o nifer o lynnoedd ar y tir uchel i'r gogledd o gopa'r Moelwyn Mawr yn y Moelwynion. Saif i'r dwyrain o gopa Cnicht ac i'r gogledd-orllewin o Lyn Cwmorthin, 1,720 troedfedd uwch lefel y môr, ac mae ganddo arwynebedd o 7 acer.

Adeiladwyd argae yma yn y 19g i'w droi yn gronfa ddŵr ar gyfer Chwarel Rhosydd. Ceir pysgota am frithyll yn y llyn.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)