Llychlys danheddog

Oddi ar Wicipedia
Llychlys danheddog
Drepanolejeunea hamatifolia
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Porellales
Teulu: Lejeuneaceae
Rhywogaeth: D. hamatifolia
Enw deuenwol
Drepanolejeunea hamatifolia

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Llychlys danheddog (enw gwyddonol: Drepanolejeunea hamatifolia; enw Saesneg: toothed pouncewort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Porellales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Ngwynedd ac ardaloedd gorllweinol yr Alban, Lloegr ac Iwerddon.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae gan y Llychlys danheddog (D. hamatifolia) goesynnau gwyrdd golau, hyd at 1 cm o hyd a 0.2–0.4 mm o led. Mae'r dail yn cyrraedd pwynt miniog a danheddog (h.y. fel dannedd), gyda'r llabedau'n ymrannu, ond mor fach mae eu rhoi o dan feicrosgop yn hanfodol.[1]

Cynefin[golygu | golygu cod]

Tyf y rhywogaeth hon mewnleoedd llaith, mewn ardaloedd cefnforol, ger rhaeadrau neu mewn ceunentydd coediog. Mae'n yn tyfu ar greigiau a choed, naill ai ymysg bryoffytau eraill neu mewn mannau clir, ond fel arfer mae wedi'i gyfyngu i greigiau.

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Llychlys danheddog gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 5 Mehefin 2019.
  2. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.