Lluoswm
Mewn mathemateg, y lluoswm (lluosog: lluosymiau) yw canlyniad lluosi, neu fynegiant sy'n dynodi'r ffactorau sydd i'w lluosi. Ar lafar gwlad, defnyddir "yr ateb" am y lluoswm. Er enghraifft, 6 yw lluoswm 2 wedi'i luosi gyda 3 (hwn yw canlyniad y lluosi), a yw lluoswm a .
Nid yw trefn y ffactorau lle mae rhifau real neu rifau cymhlyg yn cael eu lluosi yn effeithio ar y lluoswm e.e.
- 2 x 4 = 8
- 4 x 2 = 8
Gelwir hyn yn 'ddeddf gymudol lluosi' (the commutative law of multiplication). Pan luosir matricsau[1] neu algebrâu cysylltiol eraill, mae trefn y ffactorau'n cyfri; gelwir y rhain yn 'anghymudol'.
Ceir sawl gwahanol fath o luosymiau mewn mathemateg: heblaw am luosi rhifau, polynomialau neu fatricsau, gellir, hefyd, ddiffinio lluosymiau sawl strwythur algebraidd gwahanol, fel y gwelwn isod.
Termau
[golygu | golygu cod]Termau |
---|
|
Lluoswm dau
[golygu | golygu cod]Lluoswm dau rif naturiol
[golygu | golygu cod]Pan roddir rhesi o gerrig mewn patrwm petryalog, gyda yn golygu rhesi a yn dynodi colofnau, yna:
o gerrig.
Lluoswm dau gyfanrif
[golygu | golygu cod]Mae cyfanrifau'n caniatau rhifau positif a rhifau negatif. Lluosir y rhifau, yn union fel rhifau naturiol, ar wahân i'r ffaith ein bod angen rheol newydd i'r arwyddion:
Mewn geiriau:
- Mae minws wedi'i luosi gyda minws yn rhoi plws
- Mae minws wedi'i luosi gyda plws yn rhoi minws
- Mae plws wedi'i luosi gyda minws yn rhoi minws
- Mae plws wedi'i luosi gyda plws yn rhoi plws.
Lluoswm dau ffracsiwn
[golygu | golygu cod]Pan lluosir dau ffracsiwn, gellir lluosi'r rhifiadur gyda'r enwadur:
Lluosi dau rif cymhlyg
[golygu | golygu cod]Gellir lluosi dau rif cymhlyg gan ddeddf dosbarthol (distributive law) a'r ffaith fod , fel a ganlyn:
Ystyron geometraidd lluosi cymhlyg
[golygu | golygu cod]Gellir sgwennu rhifau cymhlyg mewn cyfesurynnau pegynnol:
ac felly:
- , a chawn:
Yr ystyr geometrig yw y lluosir y meintiau (magnitudes) gyda'r onglau.
Lluoswm dau gwaternion
[golygu | golygu cod]Yn yr achos yma, mae a , fel arfer, yn wahanol.
Lluoswm dilyniant
[golygu | golygu cod]Mae'r gweithredwr lluoswm ar gyfer lluoswm pob dilyniant wedi'i ddynodi gan y lythyren Groeg pi ∏ (gellir ei gymhau gyda'r lythyren Sigma ∑ sy'n symbol ar gyfer symiant, sef adio cyfres o rifau).
Ceir hefyd
[golygu | golygu cod]- lluoswm crynswth (gross product)
- lluoswm matrics
- lluoswm sgalar
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ termau.cymru; Gweler: Y Termiadur Addysg - Cemeg a Bioleg, Daearyddiaeth a Daeareg, Ffiseg a Mathemateg.