Lloyd Kenyon, Barwn 1af Kenyon

Oddi ar Wicipedia
Lloyd Kenyon, Barwn 1af Kenyon
Ganwyd5 Hydref 1732 Edit this on Wikidata
Hanmer Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ebrill 1802, 1802 Edit this on Wikidata
Caerfaddon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbarnwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddArglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, Meistr y Rolau, Twrnai Cyffredinol Lloegr a Chymru, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Aelod o 15fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 15fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 16eg Senedd Prydain Fawr Edit this on Wikidata
TadLloyd Kenyon Edit this on Wikidata
MamJane Eddowes Edit this on Wikidata
PriodMary Kenyon Edit this on Wikidata
PlantLloyd Kenyon, George Kenyon, Thomas Kenyon Edit this on Wikidata

Roedd Lloyd Kenyon, Barwn 1af Kenyon PC, SL, KC (5 Hydref, 1732 - 4 Ebrill, 1802), yn wleidydd a chyfreithiwr Cymreig, a wasanaethodd fel Twrnai Cyffredinol, Meistr y Rolau ac Arglwydd Brif Ustus.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Kenyon ar Ystâd Gredington, Hanmer, Sir y Fflint, yn fab i Lloyd Kenyon, bonheddwr ac Ynad Heddwch, a'i wraig Jane (née Eddowes). Cafodd ei addysg yn ysgol leol Hanmer ac Ysgol Rhuthun.[2]

Gyrfa gynnar[golygu | golygu cod]

Fel ail fab, roedd disgwyl iddo fynd i weinidogaeth Eglwys Loegr ond penderfynodd dilyn gyrfa gyfreithiol. Treuliodd pum mlynedd yn gweithio fel clerc i gyfreithiwr lleol W J Tomkinson. Profodd i fod yn glerc rhagorol, gan ddod yn "gyfryngwr cyflym a manwl gywir". Roedd Kenyon yn fodlon a'r syniad o fod yn gyfreithiwr syml am weddill ei yrfa. Daeth tro ar fyd ar ôl marwolaeth ei frawd hŷn. Tybiwyd y byddai'n fwy gweddus i edling ystâd bonheddig bod yn fargyfreithiwr na chyfreithiwr cefn gwlad.[3] Ymunodd â'r Deml Ganol ym mis Tachwedd 1750. Ym mis Chwefror 1755, gadawodd cwmni Tomkinson a symud i Lundain, lle cafodd ei alw i'r bar ar 10 Chwefror, 1756.[4]

Heb yr addysg na'r cysylltiadau y byddai prifysgol wedi'u darparu, roedd bron yn hollol ddi-waith am sawl blwyddyn.[5] Roedd yn byw ar lwfans o £ 80 gan ei dad ac arian gan ei berthnasau cyfoethocach. Treuliodd ei amser yn gwylio'r Arglwydd Mansfield yn cynnal treialon ym Mainc Llys y Brenin. Roedd ei enillion prin cyntaf yn dod bron yn gyfan gwbl o waith trawsgludo. I ennill arian ychwanegol, dechreuodd fynychu'r Gylchdaith Gymreig, lle'r oedd cysylltiadau Tomkinson yn ei alluogi i fod yn gynrychiolydd cyfreithiol mewn ambell i fan achos. Ar ôl sawl blwyddyn, dechreuodd fynychu sesiynau chwarterol Rhydychen, Stafford a'r Amwythig, "lle bu'n fwy llwyddiannus". Daeth yr hwb fwyaf i'w yrfa trwy ei gyfeillgarwch â John Dunning, bargyfreithiwr arall oedd bron yn ddi-waith. Ym 1762, bu farw un o arweinwyr y gylchdaith ogleddol ac ymddiriedwyd ei waith i Dunning. Wrth i Dunning gael ei hun gyda gormod o achosion, rhoddodd lawer ohonynt i Kenyon. Ym 1767, er enghraifft, deliodd Kenyon ag 20 o achosion Dunning. Oherwydd ei waith cyflym ac effeithlon, dechreuodd cyfreithwyr ei ddefnyddio'n uniongyrchol. Ar ôl 10 mlynedd yr oedd yn ennill £3,000 y flwyddyn.[6]

Cafodd gyrfa Kenyon hwb sylweddol wedi iddo gael ei gyflwyno i Ddug Richmond. Roedd anghydfod cyfreithiol rhwng Richmond a James Lowther (Iarll 1af Lonsdale) parthed pa un ohonynt oedd yn rheoli sawl etholaeth seneddol. Aeth Kenyon gyda Richmond i Gaerliwelydd a Cockermouth fel ei ymgynghorydd cyfreithio a sicrhaodd yr etholaethau i Richmond. Dechreuodd Dug Richmond cyflogi Kenyon fel ei brif ymgynghorydd cyfreithiol wedi'r fuddugoliaeth. Ym 1780 llwyddodd Kenyon i amddiffyn yr Arglwydd George Gordon yn erbyn cyhuddiad o deyrnfradwriaeth, gyda chymorth Thomas Erskine. Bu'r enwogrwydd a oedd yn deillio o'r achos yn foddion i'w esgyn yn uwch yn rhengoedd ei broffesiwn ac mewn byd gwleidyddiaeth. Ar yr un pryd, daeth yn ffrindiau gyda’r Arglwydd Thurlow, a phan fu farw Prif Ustus Caer, sicrhaodd Thurlow bod y swydd yn cael ei roi i Kenyon.[6]

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Pan ddiddymwyd y Senedd ym 1780, sicrhaodd Thurlow fod Kenyon yn cael ei ddychwelyd fel Aelod Seneddol dros Hindon.[7] Ym mis Ebrill 1782, ar ffurfio llywodraeth Rockingham, gwnaed Kenyon yn Dwrnai Cyffredinol Cymru a Lloegr. Fel Twrnai Cyffredinol siaradodd ar un pwnc yn unig, ar 18 Mehefin 1782, mewn perthynas â'r swm o arian a oedd yn ddyledus i'r Trysorlys gan Dâl-feistr y Lluoedd Arfog. Ysgogodd hyn wrthwynebiad gan Charles James Fox. Roedd tad Fox, yr Arglwydd Holland, wedi elwa'n fawr o swydd Tâl Meistr y Lluoedd. Gallasai rhaglen Kenyon fod wedi difetha Fox trwy ei wneud yn atebol am ad-dalu elw ei dad fel Tâl-feistr. Ar farwolaeth Rockingham parhaodd Kenyon yn ei swydd o dan Weinyddiaeth Shelburne, ond gadawodd ei swydd ym mis Ebrill 1783 pan syrthiodd y llywodraeth honno i Glymblaid Fox-North. Cysylltodd Kenyon ei hun â William Pitt yr Ieuaf, gan arwain y gwrthwynebiad i ddeddf gyntaf y llywodraeth newydd a chefnogi bil yr wrthblaid yn gryf i ddiwygio'r Trysorlys. Pan gwympodd y llywodraeth newydd ar 19 Rhagfyr a phenodwyd Pitt yn Brif Weinidog, gwnaed Kenyon yn Dwrnai Cyffredinol eto. Unwaith eto, arweiniodd ar fater Tâl-feistr y Lluoedd, a gorchmynnodd fod Richard Rigby, y Tâl-feistr hyd 1782, "yn cyflwyno i'r Tŷ gyfrif o'r balans o'r holl arian cyhoeddus a oedd yn weddill yn ei ddwylo ar y 13eg diwrnod o Dachwedd diwethaf ". Cwynodd Rigby bod hyn yn gais tu allan i'r arfer cyffredin.[6]

Yn 1784 bu farw Thomas Sewell, Meistr y Roliau ac, yn ôl y traddodiad, olynodd Kenyon, fel y Twrnai Cyffredinol ef i swydd Meistr y Roliau ar 27 Mawrth. Wedi cael y dyrchafiad roedd yn bwriadu ymadael a'r Senedd ond cafodd ei berswadio i aros fel AS a Thwrnai Cyffredinol i gynyddu mwyafrif Pitt. Prynodd sedd Tregony yng Nghernyw, a daeth yn un o gefnogwyr cryfaf a mwyaf gweladwy Pitt.[1] Gyda'i gysylltiadau yng Nghymru, sicrhaodd bleidleisiau i sawl ymgeisydd gweinidogol o etholaethau Cymru.

Rhoddodd gorau i swydd Meistr y Roliau ar 7 Mehefin 1788. Cafodd ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi fel yr Arglwydd Kenyon Barwn Gredington ar y 7fed Mehefin a'i benodi'n Arglwydd Brif Ustus.[4]

Gyfra fel Arglwydd Brif Ustus[golygu | golygu cod]

Roedd gyrfa Kenyon fel Arglwydd Brif Ustus yn cael ei nodweddu gan ei farn bod egwyddor foesol yn bwysicach na lythyren y gyfraith. Roedd yn credu bod y gyfraith yn bodoli i orfodi dyletswyddau crefyddol, moesol a chymdeithasol rhwng dyn a dyn.[3]

Roedd Kenyon yn casáu godineb,[8] ac mewn achosion o gam ymddygiad priodasol roedd yn annog rheithgorau i ddyfarnu iawndal enfawr a drodd dyfarniad achos sifil yn un o gosb droseddol i bob pwrpas.[9] Roedd achosion o'r fath wedi bod yn cynyddu cyn i Kenyon gael ei benodi ond cynyddodd dyfarniadau dros £2000 bedair gwaith tra roedd yn brif ustus. Bu'r cynnydd mewn achosion o'r fath yn atgyfnerthu ei argyhoeddiad bod camymddwyn rhywiol yn tanseilio'r drefn gymdeithasol. Ym 1799 nododd ei fod yn cefnogi'r gosb eithaf i odinebwyr.[2]

Rhwng 1796 a'i farwolaeth gwasanaethodd fel Custos Rotulorum Sir y Fflint [10] ac o 1761 - 1779 fel Arglwydd Raglaw Sir y Fflint.[11]

Teulu[golygu | golygu cod]

Ym 1773, priododd ei gyfnither, Mary Kenyon, bu iddynt dri mab. Lloyd, a fu farw o'i flaen, George a Thomas.[2]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yng Nghaerfaddon yn 69 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion yng nghladdgell y teulu yn Eglwys St Chad, Hanemr. Olynwyd ef yn y Barwniaeth gan ei ail fab George.[12]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "KENYON (TEULU). | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-26.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Kenyon, Lloyd, first Baron Kenyon (1732–1802), judge". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/15431. Cyrchwyd 2020-03-26.
  3. 3.0 3.1 Chalmers, Alexander (1815). The general biographical dictionary, containing an historical and critical account of the lives and writing of the most eminent persons in everynation 19. 19. London: Nichols. OCLC 311534524.
  4. 4.0 4.1 Campbell, John Campbell (1849). The lives of the chief justices of England. From the Norman conquest till the death of Lord Mansfield. London: J. Murray. OCLC 4663457.
  5. "Lord Kenyon – Wrexham History". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-26. Cyrchwyd 2020-03-26.
  6. 6.0 6.1 6.2 Kenyon (1873). Life of Lloyd, First Lord Kenyon, Lord Chief Justice of England. OCLC 958721334.
  7. "Kenyon, Lloyd Kenyon, 1st Baron", 1911 Encyclopædia Britannica Volume 15, https://en.wikisource.org/wiki/1911_Encyclop%C3%A6dia_Britannica/Kenyon,_Lloyd_Kenyon,_1st_Baron, adalwyd 2020-03-26
  8. "Public Characters of 1798-9( -1810). The third edition, enlarged and corrected.". Public Characters of 1798-9( -1810).. https://www.worldcat.org/title/public-characters-of-1798-9-1810-the-third-edition-enlarged-and-corrected/OCLC/503918503.
  9. Foss, Edward (1843). The grandeur of the law: or, The legal peers of England : with sketches of their professional career. London England: E. Spettigue. OCLC 264881725.
  10. Institute of Historical Research - Custodes Rotulorum 1660-1828
  11. John C. Sainty, List of Lieutenants of Counties of England and Wales 1660-1974, Swift Printers (Sales) Ltd, Llundain, 1979
  12. "Lloyd Kenyon (1732-1802) - Find A Grave Memorial". www.findagrave.com. Cyrchwyd 2020-03-26.