Llewelyn Lewellin

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llewelyn Lewellin
Portrait of Llewelyn Lewellin (4674514) (cropped).jpg
Ganwyd 3 Awst 1798 Edit this on Wikidata
Bu farw 25 Tachwedd 1878 Edit this on Wikidata (80 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth clerigwr, Offeiriad Edit this on Wikidata

Clerigwr oedd Llewelyn Lewellin (3 Awst 179825 Tachwedd 1878).

Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y Bont-faen ac yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen; cafodd anrhydedd yn y dosbarth blaenaf yn yr arholiad terfynol yn y Clasuron, a graddio'n B.A. ym 1822, yn M.A. ym 1824, yn B.C.L. ym 1827, ac yn D.C.L. ym 1829. Cafodd urddau diacon ym 1822 ac fe'i gwnaed yn offeiriad ym 1823, ar law esgob Rhydychen. Ym 1826 cafodd gynnig, a derbyniodd, swydd prifathro ysgol ramadeg Bruton yng Ngwlad yr Haf. Ond yn hytrach na mynd yno, aeth, ym 1827, i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan fel ei brifathro cyntaf, a bu yno hyd ei farw ar 25 Tachwedd 1878. Bu hefyd yn ficer Llambed o 1843 ymlaen ac yn ddeon Tyddewi o 1843 ymlaen. Fe'i claddwyd yn Llambed.

Ffynhonnell[golygu | golygu cod y dudalen]