Lily Tobias
Gwedd
| Lily Tobias | |
|---|---|
| Ganwyd | 1887 Abertawe |
| Bu farw | 1984 Haifa |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, nofelydd |
| Gwobr/au | Notable of Haifa |
Roedd Lily Tobias (1887-1984) yn awdur ac ymgyrchydd.
Ganed yn Abertawe, i rieni o dras Pwyleg-Iddewig. Magwyd Lily yn Ystalyfera yng nghwm Tawe.[1]
Ymgyrchodd Tobias dros faterion amrywiol; y bleidlais i ferched, hawliau gweithwyr yn ogystal â sicrhau Palestina fel cartref swyddogol i'r genedl Iddewig. Roedd Tobias hefyd yn wrthwynebwr cydwybodol.
Yn ystod ei hoes adnabuwyd Tobias fel awdures. Ysgrifennodd bedair nofel, casgliad o straeon byrion a'r dramateiddiad cyntaf o Daniel Deronda ar gyfer y llwyfan.
Roedd Lily yn fodryb i'r bardd Dannie Abse a'r AS Llafur Leo Abse.
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- My Mother's House Archifwyd 2016-08-04 yn y Peiriant Wayback (1931, ailargraffwyd gan Honno Classics 2015)
- Eunice Fleet Archifwyd 2016-10-27 yn y Peiriant Wayback (1933, ailargraffwyd gan Honno Classics 2004)s