Lillian Wald

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Lillian Wald
Lillian Wald - William Valentine Schevill.jpg
Ganwyd 10 Mawrth 1867 Edit this on Wikidata
Cincinnati Edit this on Wikidata
Bu farw 1 Medi 1940 Edit this on Wikidata (73 oed)
Achos: Strôc Edit this on Wikidata
Westport Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Galwedigaeth nyrs, gweithiwr cymdeithasol, gweithredydd heddwch, Swffragét Edit this on Wikidata
Gwobr/au 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Oriel yr Anfarwolion Ohio Edit this on Wikidata

Ffeminist Americanaidd oedd Lillian Wald (10 Mawrth 1867 - 1 Medi 1940) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros heddwch, gweithiwr dros hawliau dynol a swffragét.[1] Hi sefydlodd y syniad o nyrsio cymunedol yn Unol Daleithiau America pan ddechreuodd y Henry Street Settlement yn ninas Efrog Newydd yn ogystal â'r polisi o gael nyrs ym mhob ysgol y wladwriaeth. [2][3][4]

Ymgyrchodd dros etholfraint, sef yr hawl i fenywod gael bwrw eu pleidlais ac roedd yn gefnogwr cry i integreiddio hiliol. Roedd yn rhan o sefydlu'r Gymdeithas Genedlaethol er Hyrwyddo Pobl Liw (NAACP) (Association for the Advancement of Colored People) hefyd.

Enwebodd y New York Times Lillian Wald, yn 1922, fel un o'r 12 menyw Americanaidd mwyaf a oedd yn fyw, ac yn ddiweddarach derbyniodd Fedal Lincoln am ei gwaith fel "Dinesydd Eithriadol o Efrog Newydd." Darllenodd Sara Delano Roosevelt lythyr gan ei mab, yr Arlywydd Franklin Roosevelt, lle canmolodd Wald am ei "llafur anhunanol i hyrwyddo hapusrwydd a lles pobl eraill."

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganed yn Cincinnati ar 10 Mawrth 1867 a bu farw yn Westport o strôc yn 73 oed, ac fe'i claddwyd ym Mynwent Mount Hope. Am ysbaid, mynychodd yr ysgol feddygol a dechreuodd addysgu dosbarthiadau iechyd cymunedol. Ar ôl sefydlu Henry Street Settlement, daeth yn weithredwr dros hawliau menywod a lleiafrifoedd.

Lillian Wald yn y 1900au

Ganed Lillian Wald i deulu dosbarth canol Almaenaidd-Iddewig yn Cincinnati, Ohio; roedd ei thad yn ymwneud â gwerthu offer optegol. Yn 1878, symudodd gyda'i theulu i Rochester, Efrog Newydd. Mynychodd Ysgol Fabanod ac Ysgol ddyddiol Saesneg-Ffrangeg Miss Cruttenden ar gyfer Merched Ifanc. Ymgeisiodd am le yng Ngholeg Vassar pan oedd yn 16 oed, ond roedd yr ysgol yn meddwl ei bod yn rhy ifanc. Yn 1889, aeth i Ysgol Nyrsio Ysbyty Efrog Newydd. Graddiodd o Ysgol Hyfforddiant Ysbyty Efrog Newydd ar gyfer Nyrsys yn 1891, ac yna dilynodd gyrsiau yng Ngholeg Meddygol y Merched (Woman's Medical College). [5][6]

Cyflogi menywod[golygu | golygu cod y dudalen]

Darparodd Wald gyfle unigryw i fenywod i gael eu cyflogi yn Sefydliad Henry Street. Yn ei llythyrau, mae'n trafod y manteision niferus a gynigiwyd gan y Sefydliad. Un o'r manteision mwyaf nodedig oedd y cyfle i fenywod gael gyrfa lawn, ac adeiladu eu cyfoeth eu hunain yn annibynnol oddi wrth eu gwŷr neu eu teuluoedd. Roedd cyflogaeth fel hyn, hefyd, yn rhoi cyfle i fenywod ennill annibyniaeth o'u gwŷr a gweithio y tu allan i'r cartref.

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Gynghrair Ryngwladol Menywod dros Heddwch a Rhyddid am rai blynyddoedd. [7]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod (1993)[8]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Feld, Marjorie N. (20 Mawrth 2009). "Lillian D. Wald". Jewish Women: A Comprehensive Historical Encyclopedia (yn Saesneg). Jewish Women's Archive. Cyrchwyd 8 Mawrth 2018.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, dynodwr VIAF 35255008, https://viaf.org/, adalwyd 4 Tachwedd 2018Wikidata Q54919
  3. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 15 Rhagfyr 2014Wikidata Q36578
  4. Philips, Deborah (1999). "Healthy Heroines: Sue Barton, Lillian Wald, Lavinia Lloyd Dock and the Henry Street Settlement". Journal of American Studies 33 (1): 65–82. doi:10.1017/S0021875898006070.
  5. Anrhydeddau: https://www.womenofthehall.org/inductee/lillian-wald/.
  6. Lillian D. Wald biography[dolen marw], National Women's History Museum website and newsletter. Retrieved February 20, 2010
  7. Anrhydeddau: https://www.womenofthehall.org/inductee/lillian-wald/.
  8. https://www.womenofthehall.org/inductee/lillian-wald/.