Licypriya Kangujam

Oddi ar Wicipedia
Licypriya Kangujam
Ganwyd2 Hydref 2011 Edit this on Wikidata
Imphal East district Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethamgylcheddwr, ymgyrchydd hinsawdd, disgybl ysgol Edit this on Wikidata
PerthnasauChinglensana Singh Edit this on Wikidata

Mae Licypriya Kangujam (ganwyd 2011) yn ymgyrchydd amgylcheddol o India. Hi yw un o'r ymgyrchwyr (weithiau: gweithredwyr) hinsawdd ieuengaf yn fyd-eang ac mae wedi annerch arweinwyr y byd yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2019 ( COP25 ) ym Madrid, Sbaen yn gofyn iddynt weithredu ar unwaith i atal newid hinsawdd. Trodd at ymgyrchu dros weithredu yn yr hinsawdd yn India ers 2018, i basio deddfau newydd i ffrwyno lefelau llygredd uchel India, ac i wneud llythrennedd newid hinsawdd yn orfodol mewn ysgolion.[1][2][3][4]

Mae hi wedi cael ei hystyried yn Greta Thunberg o India, er nad yw'n hoffi'r defnydd o'r term hwn.[5]

Dechreuodd Licypriya eiriol yn erbyn newid yn yr hinsawdd yng Ngorffennaf 2018. Ar 21 Mehefin 2019, wedi'i hysbydoli gan Greta Thunberg, dechreuodd Licypriya dreulio wythnos y tu allan i Senedd-dy India yn galkw ar y Prif Weinidog Narendra Modi i basio deddf newid hinsawdd yn India . Ar 31 Awst 2019, derbyniodd Licypriya "Wobr Heddwch Plant y Byd 2019" a drosglwyddwyd gan Charles Allen, Cyfarwyddwr Partneriaethau Mynegai Heddwch Bydeang - Sefydliad Economeg a Heddwch (CAU), Awstralia mewn digwyddiad a drefnwyd gan Gynghrair Ranbarthol Meithrin Ieuenctid a'r Weinyddiaeth Chwaraeon Ieuenctid a Grymuso Cymunedol, Llywodraeth Maldives. Cafodd ei hanrhydeddu hefyd â'r teitl "Rising Star" gan bencadlys Rhwydwaith Diwrnod y Ddaear yn Washington, DC, UDA.[6][7][8]

Ar 19 Tachwedd 2019, derbyniodd " Wobr Llysgennad SDGs 2019" ym Mhrifysgol Chandigarh gan Dainik Bhaskar mewn cydweithrediad â NITI Aayog, Llywodraeth India . Derbyniodd Licypriya hefyd y "Global Child Prodigy Award 2020" ar 3 Ionawr 2020 yn New Delhi gan Raglaw Lywodraethwr Pondicherry Kiran Bedi.[9] Ar 18 Chwefror 2020 anerchodd y TEDxSBSC a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Delhi, New Delhi, India. Ar 23 Chwefror 2020 anerchodd y TEDxGateway a gynhaliwyd ym Mumbai a derbyniodd gymeradwyaeth ar-ei-sefyll am ei haraith. Bu’n annerch sgwrs TEDx am y chweched gwaith tan ei naw mlwydd oed.[10][11][12][13]

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Ganwyd Licypriya Kangujam ar 2 Hydref 2011 yn Bashikhong, Manipur, India, yn ferch hynafi KK Singh a Bidyarani Devi Kangujam Ongbi. Dechreuodd Kangujam godi ei llais i frwydro yn erbyn newid hinsawdd a lleihau risg trychinebau, pan oedd hi'n saith oed. Ym Mehefin 2019, protestiodd o flaen Senedd-dy India yn annerch Prif Weinidog India Narendra Modi i ddeddfu’r gyfraith newid hinsawdd yn India.[14][15][16][17]

Gweithredu 2018–2019[golygu | golygu cod]

Kangujam yn annerch Fforwm Partneriaid UNESCO 2019 (Biandaial Luanda) yn Angola ar 20 Medi 2019.

Ymweliadau â Mongolia[golygu | golygu cod]

Yn 2018, mynychodd Licypriya gynhadledd trychineb y Cenhedloedd Unedig ym Mongolia ynghyd â’i thad. Ysbrydolwyd hi i gymryd rhan mewn ymgyrchu. Mewn erthygl yn y BBC News nododd "Cefais lawer o ysbrydoliaeth a gwybodaeth newydd gan y bobl sy'n rhoi areithiau. Roedd yn ddigwyddiad a newidiodd ei bywyd. "Sefydlodd Licypriya y "Mudiad Plant" yn fuan ar ôl y digwyddiad i godi ymwybyddiaeth i amddiffyn y blaned trwy fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a thrychinebau naturiol.[18]

Ymweliadau ag Affrica[golygu | golygu cod]

Mynychodd Kangujam Fforwm Partneriaid UNESCO 2019 (Biandaial Luanda) yn Ninas Luanda, Angola a wahoddwyd gan UNESCO, Undeb Affrica a Llywodraeth Angola. Bu’n annerch ar newid hinsawdd ynghyd ag Arlywydd Angola João Lourenço, Llywydd Mali Ibrahim Boubacar Keïta, Llywydd Malawi Hage Geingob, Llywydd Gweriniaeth y Congo Denis Sassou Nguesso, ac eraill.[19][20][21][22]

Llifogydd Kerala 2018[golygu | golygu cod]

Fe roddodd Licypriya ei chynilion o 100,000 Rupees i Brif Weinidog Kerala Pinarayi Vijayan ar 24 Awst 2018 i helpu plant sydd wedi dioddef oherwydd Llifogydd Kerala. Ddwy flynedd yn ddiweddarach derbyniodd lythyr gan Lywodraeth Kerala fel cydnabyddiaeth o'i gwaith.[23]

Roedd rhodd Licypriya i'r Prif Weinidog yn cefnogi eu gwaith yn amddiffyn plant sy'n cael eu taro gan y llifogydd. Teimlai y byddai ei chyfraniad bach yn helpu i wneud gwahaniaeth i'r plant yn ystod yr amser anodd.

Pecyn Goroesi ar gyfer y Dyfodol[golygu | golygu cod]

Daeth Licypriya â dyfais symbolaidd o'r enw SUKIFU (Survival Kit for the Future) i ffrwyno'r llygredd aer ar 4 Hydref 2019. Mae SUKIFU yn becyn cyllideb sydd bron yn sero wedi'i greu o sbwriel i ddarparu awyr iach pan fo llygredd yn ddrwg. Mae'r teclyn gwisgadwy hwn yn gydnabyddiaeth o'r Mudiad Gwyrdd am lygredd aer. Gall unrhyw un greu'r cysyniad hwn gartref o'r sbwriel ailgylchu i roi awyr iach yn uniongyrchol i'n hysgyfaint. Fe’i lansiodd o flaen Tŷ Cynulliad Deddfwriaethol Punjab & Haryana fel symbol o arddangosiad cyn seremoni cymryd llw MLAs a Gweinidogion Haryana. Tynnodd sylw'r arweinwyr at y pwysigrwydd i ddod o hyd i ateb brys ar gyfer yr argyfwng presennol o lygredd aer yn Delhi a'r Brifddinas-Ranbarth Cenedlaethol.[24][25][26]

COP25[golygu | golygu cod]

Licypriya Kangujam gydag Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres, yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2019 (COP25) ym Madrid, Sbaen ar 12 Rhagfyr 2019.

Anerchodd Licypriya Kangujam yn COP25 yn annog arweinwyr y byd i weithredu nawr ar newid hinsawdd. Cynhaliwyd Cynhadledd Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig i drafod y gweithredu rhyngwladol ar newid hinsawdd. Mynychodd 26,000 o bobl o 196 o wledydd y digwyddiad hwn. Fe'i cynhaliwyd rhwng 2 Rhagfyr a 13 Rhagfyr yn IFEMA, Madrid, Sbaen, dan ofal Llywodraeth Chile gyda chefnogaeth logisteg Llywodraeth Sbaen o dan UNFCCC (Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd).[27]

Cyfarfu Kangujam ag Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn ystod Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig COP25 a chyflwynodd femorandwm "ar ran plant y byd." Nododd y memorandwm ei bod am greu lle gwell i holl blant y byd. Cafodd ei chanmol gan Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres. Cymerodd Greta Thunberg a sawl arweinydd byd-eang arall ran yn ystod y digwyddiad hwn.[28]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Meet Licypriya Kangujam, the 8-yr-old Indian 'Greta' who is urging leaders at COP25 to save the planet". The Economic Times. 20 Medi 2019. Cyrchwyd 20 Medi 2019.
  2. "Eight-Year-Old Licypriya Kangujam Is Flying India's Flag at COP25". The Wire (India). 10 December 2019. Cyrchwyd 10 December 2019.
  3. "Indian 8-year-old challenges world leaders to act on climate change at COP25 in Madrid". The Hindu. 10 December 2019. Cyrchwyd 10 December 2019.
  4. "Meet Licypriya Kangujam, the 8-yr-old Indian 'Greta' who is urging leaders at COP25 to save the planet". The Economic Times. 10 December 2019. Cyrchwyd 10 December 2019.
  5. Banerji, Annie (2020-02-08). "'Don't call me India's Greta Thunberg and erase my story': Eight-year-old Licypriya Kangujam". Scroll.in. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-02-06. Cyrchwyd 2021-02-06.
  6. "India climate activist Licypriya Kangujam on why she took a stand". BBC News. 6 Chwefror 2020. Cyrchwyd 6 Chwefror 2020.
  7. "One year on, child climate activist, 8, continues strike outside Indian parliament". The Straits Times. 6 Chwefror 2020. Cyrchwyd 6 Chwefror 2020.
  8. "This 7-Yr-Old Girl Stood Near Parliament Urging PM Narendra Modi To Pass The Climate Change Law Now". The Times of India. Cyrchwyd 19 Mehefin 2019.
  9. "Licypriya Kangujam from India - the world's youngest climate activist - stands with Greta Thunberg and demands three new policies". Business Insider. Cyrchwyd 19 December 2019.
  10. "Licypriya Kangujam". TEDxGateway. Cyrchwyd 23 Chwefror 2020.
  11. "Young ones to take centre stage at TEDxGateway tomorrow". TEDxGateway. Cyrchwyd 23 Chwefror 2020.
  12. "Licypriya Kangujam". The Hindu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-22. Cyrchwyd 22 Chwefror 2020.
  13. "Climate change, future tech take centre stage". Mumbai Mirror. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-22. Cyrchwyd 22 Chwefror 2020.
  14. "A 7-Year-Old Takes Stand Near The Parliament Urging PM Modi To Pass The Climate Change Law". ScoopWhoop. 22 Mehefin 2019. Cyrchwyd 22 Mehefin 2019.
  15. "Angola backs Licypriya's green world campaign". Poknapham. 24 Medi 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-02-09. Cyrchwyd 24 Medi 2019.
  16. "Seven-year-old becomes the youngest green activist". Daily News and Analysis. 9 Medi 2019. Cyrchwyd 9 Medi 2019.
  17. "Aged 7, Licypriya Kangujam stands outside Parliament to urge Prime Minister, MPs to pass climate change law". Mirror Now. 22 Mehefin 2019. Cyrchwyd 22 Mehefin 2019.
  18. "India climate activist Licypriya Kangujam on why she took a stand". BBC News. 6 Chwefror 2020. Cyrchwyd 6 Chwefror 2020."India climate activist Licypriya Kangujam on why she took a stand".
  19. "Biennale of Luanda - Pan-African Forum for the culture of peace". UNESCO. 20 Medi 2019. Cyrchwyd 20 Medi 2019.
  20. "Biennale of Luanda: Pan-African Forum for the Culture of Peace". African Union. 20 Medi 2019. Cyrchwyd 20 Medi 2019.
  21. "Licypriya Kangujam met with The President of Namibia". India Education Diary. 20 Medi 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-26. Cyrchwyd 20 Medi 2019.
  22. "Licypriya draws attention of world leaders on her maiden climate change movement in Angola". Rediff Realtime. 20 Medi 2019. Cyrchwyd 20 Medi 2019.
  23. "Licypriya Kangujam Donated ₹1,00,000 to Kerala Government to Support Victim Children of Kerala Massive Flood in 2018 but Acknowledged after almost 2 Years". Saarcyouth.org. 22 Hydref 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-09-28. Cyrchwyd 22 Hydref 2019.
  24. "Licypriya Kangujam launches solution to curb air pollution". Pragativadi. 4 Nov 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-04-06. Cyrchwyd 4 Nov 2019.
  25. "8 yr olds solution to tackle air pollution". Pragativadi. 5 Nov 2019. Cyrchwyd 5 Nov 2019.
  26. "8-years-old Licypriya Kangujam launched solution to curb air pollution". The Northeast Today. 5 Nov 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-13. Cyrchwyd 5 Nov 2019.
  27. "UN Chief lavishes praise on India's 8-yr-old activist". Deccan Herald. 2019-12-13. Cyrchwyd 2019-12-13.
  28. "India's 8-yr-old activist at COP25 reminder of world's obligations to future generations:UN Chief". Outlook. 2019-12-13. Cyrchwyd 2019-12-13.