José Lezama Lima

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Lezama Lima)
José Lezama Lima
Ganwyd19 Rhagfyr 1910 Edit this on Wikidata
La Habana Edit this on Wikidata
Bu farw9 Awst 1976 Edit this on Wikidata
La Habana Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCiwba Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Havana Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, bardd-gyfreithiwr, thinker, cyfreithegwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amParadiso Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth Edit this on Wikidata

Bardd, nofelydd, ac ysgrifwr o Giwba yn yr iaith Sbaeneg oedd José Lezama Lima (19 Rhagfyr 19109 Awst 1976) sy'n nodedig am ei dechnegau arbrofol, ei arddull baróc, a'i fynegiant hyddysg. Fe'i ystyrir yn un o gewri llên Ciwba a chafodd ddylanwad pwysig ar lên America Ladin gyfan yn yr 20g.

Dylanwadwyd ar Lezama Lima yn gryf gan glasuron Oes Aur Sbaen a'r Symbolyddion Ffrangeg. Cymharir arddull ei ryddiaith, er enghraifft, â thelynegion y Sbaenwr Luis de Góngora. Gwelir ei wybodaeth o'r byd drwy lyfrau a'i ddiddordebau llengar yn ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Muerte de Narciso (1937). Mae ei ail gasgliad o gerddi, Enemigo rumor (1941), yn mynegi ei synfyfyrdodau ar estheteg farddonol a galluoedd metaffisegol y bardd. Mae cerddi Aventuras sigilosas (1945) yn tynnu ar brofiadau ei ieuenctid a'r dylanwad artistig a gafodd ei fam arno yn sgil marwolaeth ei dad. Mae cerddi La fijeza (1949) hefyd yn ail-greu digwyddiadau o'i fywyd, a chesglir ei farddoniaeth ysbrydol yn y gyfrol Dador (1960).

Campwaith Lezama Lima, yn ôl nifer, ydy'r nofel dyfodiad-i-oed Paradiso (1966), stori gymhleth yn y traddodiad newydd-faróc a ysgrifennir mewn iaith astrus. Anorffenedig oedd ei ddilyniant i Paradiso, Oppiano Licario (1977), a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth. Mae ei gasgliadau o ysgrifau a darlithoedd yn cynnwys Analecta del reloj (1953), La expresión americana (1957), a Tratados en la Habana (1958).

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd José Lezama Lima yn Campamento Militar de Columbia, gwersyll milwrol ger La Habana, prifddinas Ciwba, ar 19 Rhagfyr 1910. Cyrnol ym Myddin Ciwba oedd José Maria Lezama Rodda (1886–1919), a José Lezama Lima oedd yn unig blentyn iddo fe a'i wraig Rosa Lima Rosado (1888–1964). Bu farw José yr hynaf o'r ffliw pan oedd ei fab yn 8 oed, ac o ganlyniad fe ddatblygodd berthynas glos iawn â'i fam.[1]

Dechreuodd José ddarllen yn frwd pan oedd yn dioddef asthma yn ystod ei fachgendod. Aeth i Brifysgol La Habana yn 1929 i astudio'r gyfraith. Yn 1930 caewyd y brifysgol ar orchymyn yr unben Gerardo Machado, Arlywydd Ciwba, yn sgil protestiadau gan fyfyrwyr. Yn y cyfnod hwn parhaodd José i ddarllen yn eang, yn enwedig ar bynciau diwylliannol, estheteg, syniadau ysbrydol, ac astudiaethau deallusol. Er iddo ymddiddori mewn llenyddiaeth yn fwy na'r gyfraith, dychwelodd i'r brifysgol wedi iddi ei hailagor yn 1934 i astudio am ei radd.[1] Gweithiodd yn gyfreithiwr nes 1941.[2]

Gyrfa lenyddol gynnar[golygu | golygu cod]

Wedi iddo adael y brifysgol, cydsefydlodd Lezama Lima dri chylchgrawn llenyddol byrhoedlog: Verbum (1937; tri rhifyn), Espuela de plata (1939–41; chwe rhifyn) gyda Guy Pérez Cisneros a Mariano Rodríguez, a Nadie paracía (1942–44; deg rhifyn) gydag Ángel Gaztelu. Cafodd lwyddiant mawr gyda'r cyfnodolyn celfyddydau Orígenes (1944–56), a sefydlwyd gan Lezama Lima, y golygydd a beirniad José Rodríguez Feo, ac eraill. Yn Orígenes cyhoeddwyd gwaith gan ffigurau ifainc a gawsant ddylanwad pwysig ar ddiwylliant Ciwba yng nghanol yr 20g, yn eu plith y llenorion Alejo Carpentier, Virgilio Piñera, Lydia Cabrera, Eliseo Diego, ac Eugenio Florit, a'r arlunwyr Wifredo Lam ac Amerlia Peláez. Yn ogystal â hyrwyddo gwaith gwreiddiol gan feirdd, arlunwyr, a cherddorion Ciwbaidd, a chyfrannu at feirniadaeth ddiwylliannol yn y wlad drwy gyfrwng ei adran adolygiadau, bu Orígenes yn cysylltu diwylliant Ciwba â'r byd drwy gyhoeddi cerddi, straeon, ac ysgrifau gan lenorion o wledydd eraill, gan gynnwys Albert Camus, Gabriela Mistral, Juan Ramón Jiménez, Octavio Paz, a Paul Valéry.[2][3]

Swyddi gwleidyddol[golygu | golygu cod]

Yn sgil Chwyldro Ciwba yn 1959, roedd llywodraeth Fidel Castro yn ffafrio Lezama Lima i gychwyn. Siaradodd o blaid y drefn sosialaidd newydd, a rhoddwyd sawl swydd iddo yn y sefydliadau diwylliannol cenedlaethol. Yn 1959 fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr ar Adran Llên a Chyhoeddiadau'r Cyngor Diwylliannol Cenedlaethol. Gwasanaethodd hefyd yn un o is-lywyddion Undeb Cenedlaethol Llenorion ac Arlunwyr Ciwba (UNEAC) ac yn ymchwilydd a ymgynghorwr i'r Sefydliad Llenyddiaeth ac Ieithyddiaeth yn Academi Genedlaethol y Gwyddorau.[2]

Yn 1966 cyhoeddodd Lezama Lima ei nofel Paradiso, ei waith enwocaf ac yn ôl nifer o feirniaid ei gampwaith llenyddol. Derbyniodd glod ond dim ond ychydig o gopïau a ddosbarthwyd yng Nghiwba, ac yn fuan cafodd y gyfrol ei gwahardd o silffoedd y siopau lyfrau, ar orchymyn y llywodraeth mae'n debyg. Enillodd y nofel ganmoliaeth mewn gwledydd eraill hefyd, a daeth enw Lezama Lima yn gyfarwydd yng nghylchoedd llenyddol rhyngwladol. Cafodd ei wahodd i sawl digwyddiad diwylliannol tramor, ond fe gwrthodwyd caniatâd iddo adael Ciwba. Er iddo beidio â beirniadu'r llywodraeth yn gyhoeddus, yn y diwedd cafodd ei wthio i'r cyrion gan yr awdurdodau am nad oedd yn ddigon cefnogol o bolisïau swyddogol y Blaid Gomiwnyddol.[2]

Diwedd ei oes[golygu | golygu cod]

Bu farw José Lezama Lima yn La Habana ar 9 Awst 1976 yn 65 oed.[3]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Barddoniaeth[golygu | golygu cod]

  • Muerte de Narciso (1937).
  • Enemigo rumor (1941).
  • Aventuras sigilosas (1945).
  • La fijeza (1949).
  • Dador (1960).

Nofelau[golygu | golygu cod]

  • Paradiso (1966).
  • Oppiano Licario (1977).

Ysgrifau[golygu | golygu cod]

  • Analecta del reloj (1953).
  • La expresión americana (1957).
  • Tratados en la Habana (1958).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "Lima, José Lezama" yn Gale Contextual Encyclopedia of World Literature (Gale, 2009). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 17 Medi 2019.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Roberto Valero, "Lezama Lima, José (1910–1976)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 17 Medi 2019.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) José Lezama Lima. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Medi 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Emilio Bejel, José Lezama Lima: Poet of the Image (1990).
  • Susana Cella, El saber poético: La poesía de José Lezama Lima (Buenos Aires: Nueva Generación: Facultad de Filosofía y Letras, Universidad de Buenos Aires, 2003).
  • Gustavo Pellón, José Lezama Lima's Joyful Vision: A Study of "Paradiso" and Other Prose Works (1989).
  • César Augusto Salgado, From Modernism to Neobaroque: Joyce and Lezama Lima (Lewisburg: Bucknell University Press, 2001).
  • Raymond Souza, The Poetic Fiction of José Lezama Lima (1983).
  • José R. Vilahomat, Ficción de racionalidad: La memoria como operador mítico en las estéticas polares de Jorge Luis Borges y José Lezama Lima (Newark, DE: Juan de la Cuesta, 2004).