Gabriela Mistral

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gabriela Mistral
Gabriela Mistral 1945.jpg
Ffugenw Gabriela Mistral Edit this on Wikidata
Ganwyd Lucila de María Godoy Alcayaga Edit this on Wikidata
7 Ebrill 1889 Edit this on Wikidata
Vicuña Edit this on Wikidata
Bu farw 10 Ionawr 1957 Edit this on Wikidata (67 oed)
Achos: Canser y pancreas Edit this on Wikidata
Hempstead Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Tsile Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Chile Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Bardd, diplomydd, Athro, Ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Arddull Barddoniaeth Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr Lenyddol Nobel, Gwobr Genedlaethol am Lenyddiaeth Edit this on Wikidata
Llofnod
Firma Gabriela Mistral (2).png

Bardd yn yr iaith Sbaeneg, addysgwraig a diplomydd Tsileaidd oedd Gabriela Mistral (ganwyd Lucila Godoy Alcayaga; 7 Ebrill 188910 Ionawr 1957). Hi oedd y llenor cyntaf o America Ladin i ennill Gwobr Lenyddol Nobel, ac hynny yn 1945 am "ei barddoniaeth delynegol, a ysbrydolwyd gan emosiynau grymus, sydd wedi gwneud ei henw yn symbol o uchelgeisiau delfrydyddol yr holl fyd Lladin-Americanaidd".[1]

Ganwyd Lucila Godoy Alcayaga yn Vicuña, Tsile, i deulu o dras Sbaenaidd, Basgaidd, ac Indiaidd. Cafodd ei magu ym mhentref Montegrande, a chafodd swydd athrawes ysgol yn 15 oed. Gweithiodd ym maes addysg drwy gydol ei hoes, tra'n hefyd ysgrifennu a gwasanaethu mewn swyddi llywodraethol. Cyrhaeddodd swydd athrawes coleg a phenodwyd yn gyfarwyddwraig ysgolion gwledig. Cynorthwyodd weinidog addysg Mecsico, José Vasconcelos, wrth ddiwygio ysgolion y wlad honno. Yn ogystal â'i chyfnod yn weinidog diwylliannol Tsile, aeth i Ewrop fel is-gennad ym Madrid, Lisbon, Genoa, a Nice. Bu hefyd yn cynrychioli ei gwlad yng Nghynghrair y Cenhedloedd a'r Cenhedloedd Unedig.

Daeth i sylw fel bardd gyda'i chyfrol gyntaf, Sonetos de la muerte (1914), gwaith a enillodd wobr iddi. Mabwysiadodd y ffugenw Gabriela Mistral, cyfuniad o enwau ei hoff feirdd, Gabriele D'Annunzio a Frédéric Mistral. Mae ei hail lyfr, Desolación (1922), yn cynnwys y gerdd "Dolor" sy'n ymdrin â charwriaeth a ddaeth i ben pan wnaeth ei chariad ladd ei hun. Ni phriododd y bardd, o ganlyniad i'r profiad hwn.[2] Ymhlith ei chasgliadau eraill o farddoniaeth mae Ternura (1924), Tala (1938), a Lagar (1954).

Bu farw yn Hempstead, Efrog Newydd, yn 67 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) "The Nobel Prize in Literature 1945", Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 25 Mehefin 2019.
  2. (Saesneg) Gabriela Mistral. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Mehefin 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Marjorie Agosín (gol.), Gabriela Mistral: The Audacious Traveler (Athens, Ohio: Ohio University Press, 2003).
  • Ciro Alegría, Gabriela Mistral íntima (Lima: Editorial Universo, 1968).
  • Fernando Alegría, Genio y figura de Gabriela Mistral (Buenos Aires: Editorial Universitaria de Buenos Aires, 1966).
  • Margot Arce de Vázquez, Gabriela Mistral, the Poet and Her Work, cyfieithwyd gan Helene Masslo Anderson (Efrog Newydd: New York Universities Press, 1964).
  • Jaime Concha, Gabriela Mistral (Madrid: Jńcar, 1987).
  • María Luisa Daigre, Gabriela escondida: Una lectura de doce poemas de Tala (Santiago: Ril, 2005).
  • Santiago Daydí-Tolson, El ultimo viaje de Gabriela Mistral (Santiago: Aconcagua, 1989).
  • Ariel Fernández, Los Andes, Gabriela Mistral y mis padres (1912-1918) (Santiago: Tamurugal, 2005).
  • Licia Fiol-Matta, A Queer Mother for the Nation: The State and Gabriela Mistral (Minneapolis: University of Minnesota Press, 2002).
  • Harriet Alejandro Gumucio, Gabriela Mistral y el premio Nobel (Santiago: Nascimento, 1946).
  • Matilde Ladrón de Guevara, Gabriela Mistral, rebelde magní ica (Buenos Aires: Losada, 1962).
  • Sergio Macías, Gabriela Mistral, o, Retrato de una peregrina (Madrid: Tabla Rasa, 2005).
  • Susana Munnich, Gabriela Mistral: Soberbiamente transgre sora (Santiago: LOM, 2005).
  • Ana Pizarro, Gabriela Mistral: El proyecto de Lucila (Santiago: LOM, 2005).
  • Grínor Rojo, Dirán que está en la gloria (Mistral) (Santiago: Fondo de Cultura Económica, 1997).
  • Isauro Santelices E., Mi encuentro con Gabriela Mistral, 1912-1957 (Santiago: Editorial de Pacífico, 1972).
  • Martín C. Taylor, Gabriela Mistral’s Religious Sensibility (Berkeley: University of California Press, 1968).
  • Volodia Teitelboim, Gabriela Mistral, pńblica y secreta: Truenos y silencios en la vida del primer Nobel latinoamericano (Santiago: BAT, 1991; adolygwyd, Santiago: Editorial Sudamericana, 2003).
  • Lila Zemborain, Gabriela Mistral: Una mujer sin rostro (Rosario: Beatriz Viterbo Editora, 2002).