Lewis Holme Lewis

Oddi ar Wicipedia
Lewis Holme Lewis
Ganwyd1866 Edit this on Wikidata
Pencader Edit this on Wikidata
Bu farw3 Ebrill 1955 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpeiriannydd sifil Edit this on Wikidata

Pensaer a pheirianwr sifil oedd Lewis Holme Lewis (18663 Ebrill 1955).

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Fe'i ganwyd yn Sir Gaerfyrddin a mynychodd Ysgol Ramadeg Pencader, Ysgol Wyddonol Caer a Phrifysgol Lerpwl.[1] Roedd yn frawd i Howell Elvet Lewis (Elfed).

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Gweithiodd fel prentis gyda chmwni Hydraulic Engineering yng Nghaer, ac yn 1888 fe'i apwyntiwyd yn rheolwr peiriannyddol cangen y cwmni yn Lerpwl cyn rheoli cangen Llundain rhwng 1891 a 1895. Ymunodd a chwmni Manchester Corporation yn 1895 fel prif beiriannydd a rheolwr y cyflenwad pŵer hydrolig. Deng mlynedd yn ddiweddarach yn 1905 fe'i apwyntiwyd yn prif beiriannydd a rheolwr Manchester Corporation Waterworks a parhaodd yn y swydd hyn hyd ei ymddeoliad yn 1931. Roedd yn gyfrifol am ddylunio y gronfa ddŵr anferth, yr Hawes Water Dam a roedd yn gyfrifol am y gwaith adeiladu a ddechreuodd yn 1929 gan barhau i oruchwylio'r gwaith hwn wedi ei ymddeoliad.[1][2]

Cafodd y cyfrifoldeb o gynllunio'r lifft cyntaf erioed i gael ei osod ym Mhalas Buckingham.[3]

Yn 1926, fe'i etholwyd yn lywydd Sefydliad y Peiriannwyr Dŵr.[1]

Mae'n perthyn i'r cricedwr Tony Lewis.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Lewis Holme Lewis. Grace's Guide. Adalwyd ar 3 Mehefin 2016.
  2. http://www.engineering-timelines.com/scripts/engineeringItem.asp?id=4
  3. Elfed - Cawr ar goesau byr. Ioan Robers. Lolfa 2000
  4. Tony Lewis (2003). Taking Fresh Guard. Hachette. URL

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am beirianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am bensaernïaeth neu adeiladu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.