Lester B. Pearson

Oddi ar Wicipedia
Lester B. Pearson
GanwydLester Bowles Pearson Edit this on Wikidata
23 Ebrill 1897 Edit this on Wikidata
Toronto Edit this on Wikidata
Bu farw27 Rhagfyr 1972 Edit this on Wikidata
Ottawa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCanada Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, chwaraewr hoci iâ, diplomydd, hanesydd, person milwrol Edit this on Wikidata
SwyddPresident of the United Nations General Assembly, Prif Weinidog Canada, Aelod o Dŷ'r Cyffredin Canada, Canadian ambassador to the United States, Leader of the Official Opposition, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Leader of the Liberal Party of Canada, Chancellor of Carleton University Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Taldra1.88 metr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Canada Edit this on Wikidata
PriodMaryon Pearson Edit this on Wikidata
PlantGeoffrey Pearson Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Heddwch Nobel, OBE, Urdd Teilyngdod, Cydymaith o Urdd Canada, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Laval, Medal Victoria, Queen Elizabeth II Coronation Medal, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Toronto, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Rhydychen, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Harvard, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Princeton, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Honorary doctor of the University of Ottawa, Canadian Baseball Hall of Fame, honorary doctorate from the McGill University, Canadian Newsmaker of the Year, 1914–15 Star, Herzl Award, Albert B. Corey Prize Edit this on Wikidata
Chwaraeon
llofnod
Y Gwir Anrhydeddus
 Lester Bowles Pearson 
PC OM CC OBE
Lester B. Pearson

Lester B. Pearson, 1944


Cyfnod yn y swydd
22 Ebrill, 1963 – 20 Ebrill, 1968
Teyrn Elisabeth II
Rhagflaenydd John Diefenbaker
Olynydd Pierre Trudeau

Geni

Diplomydd, gwleidydd, ac hanesydd o Ganada oedd Lester Bowles "Mike" Pearson PC OM CC OBE (23 Ebrill 189727 Rhagfyr 1972) a wasanaethodd yn bedwaredd Brif Weinidog Canada ar ddeg o 22 Ebrill 1963 hyd 20 Ebrill 1968.

Ganwyd ym mwrdeistref York, sydd bellach yn rhan o ddinas Toronto, a chafodd ei fagu mewn sawl tref yn ne Ontario. Gweinidog Methodistaidd oedd ei dad, ac yn hwyrach ymaelododd y teulu ag Eglwys Unedig Canada. Gwasanaethodd ym Myddin Canada a'r Corfflu Hedfan Brenhinol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dychwelodd i orffen ei radd o Goleg Victoria ym Mhrifysgol Toronto, ac enillodd ysgoloriaeth i Goleg Sant Ioan, Rhydychen. Wedi iddo ennill ei radd meistr, darlithiodd ar bwnc hanes ym Mhrifysgol Toronto yn y cyfnod 1924–28. Ymunodd â gwasanaeth llysgenhadol Canada ym 1928 a chymerodd swydd prif ysgrifennydd yn yr Adran Faterion Tramor. Gwasanaethodd ar ddau gomisiwn brenhinol ym 1931, ac aeth i Lundain ym 1935 yn gynghorydd i swyddfa Uchel Gomisiynydd Canada i'r Deyrnas Unedig.

Fe'i alwyd yn ôl i Ganada ym 1941, a gwasanaethodd yn Llysgennad Canada i'r Unol Daleithiau yn y cyfnod 1945–46. Cafodd ei ethol i Dŷ'r Cyffredin ym 1948 yn aelod Rhyddfrydol dros Ddwyrain Algoma, a chafodd ei benodi yn ysgrifennydd gwladol dros faterion tramor yn llywodraeth Louis Saint Laurent.[1] Pearson oedd pennaeth dirpwyaeth Canada i'r Cenhedloedd Unedig o 1948 i 1956, a llywydd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig o 1952 i 1953. Fe gynrychiolodd Canada adeg sefydlu NATO ym 1949, a chadeiriodd y sefydliad hwnnw ym 1951. Derbyniodd Wobr Heddwch Nobel ym 1957 am ei ymdrechion i ddod â therfyn i argyfwng Suez y flwyddyn gynt, trwy ei gynllun i greu llu o'r Cenhedloedd Unedig i gadw'r heddwch yn yr ardal a galluogi'r goresgynwyr i encilio.[2]

Fe olynodd Saint Laurent yn bennaeth ar y Blaid Ryddfrydol ac felly'n Arweinydd yr Wrthblaid ym 1958, a daeth yn brif weinidog pan lwyddodd i ffurfio llywodraeth leiafrifol yn sgil etholiad 1963. Yn ystod ei brifweinidogaeth, cyflwynwyd gofal iechyd i bawb, benthyciadau i fyfyrwyr, cynllun pensiynau cenedlaethol, rhaglen cymorth i deuluoedd, a rhagor o fudd-daliadau i'r genoed. Sefydlwyd Urdd Canada a'r Comisiwn Brenhinol dros Ddwyieithrwydd a Deuddiwylliant, a mabwysiadwyd baner y ddeilen fasarn a'r anthem genedlaethol "O Canada/Ô Canada". Daeth â therfyn i'r gosb eithaf yng Nghanada, a gwrthododd Pearson i ddanfon lluoedd ei wlad i Ryfel Fietnam. Ymddiswyddodd Pearson ym 1968 a gadawodd ei sedd yn y Senedd, gan estyn awenau ei blaid i Pierre Trudeau.

Darlithiodd ar hanes a gwyddor gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Carleton yn Ottawa, ac yno bu hefyd yn ganghellor o 1969 hyd ei farwolaeth. Cychwynnodd ar ysgrifennu ei hunangofiant. Collodd un o'i lygaid i ganser, a bu farw o'r afiechyd hwnnw yn 75 oed.[3] O ganlyniad i gampau ei lywodraeth a'i waith arloesol yn y Cenhedloedd Unedig, ystyrid Pearson yn aml fel un o Ganadiaid mwyaf dylanwadol yr 20g ac un o brif weinidogion gorau y wlad.[4][5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Lester Pearson ar wefan ParlInfo (Senedd Canada). Adalwyd ar 17 Mehefin 2017.
  2. (Saesneg) Lester Bowles Pearson (The Nobel Peace Prize 1957), Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 17 Mehefin 2017.
  3. (Saesneg) Lester Pearson dies in Ottawa Archifwyd 2017-06-22 yn y Peiriant Wayback., The Globe and Mail (28 Rhagfyr 1972). Adalwyd ar 17 Mehefin 2017.
  4. (Saesneg) The Best Prime Minister of the Last 50 Years – Pearson, by a Landslide, Policy Options (1 Mehefin 2003). Adalwyd ar 17 Mehefin 2017.
  5. (Saesneg) Ranking Canada’s best and worst prime ministers, Maclean's (7 Hydref 2016). Adalwyd ar 17 Mehefin 2017.