Lavinia Dock

Oddi ar Wicipedia
Lavinia Dock
Ganwyd26 Chwefror 1858 Edit this on Wikidata
Harrisburg, Pennsylvania Edit this on Wikidata
Bu farw17 Ebrill 1956 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Galwedigaethnyrs, awdur erthyglau meddygol, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched Edit this on Wikidata

Ffeminist, swffragét a nyrs Americanaidd oedd Lavinia Lloyd Dock (26 Chwefror 1858 - 17 Ebrill 1956) sy'n nodigedig am ei gwaith fel awdur erthyglau meddygol yn ogystal a'i hymgyrchu egniol dros hawliau merched.[1][2][3]

Roedd Dock yn uwch-arolygydd cynorthwyol yn Ysgol Nyrsio Johns Hopkins yn Baltimore, Maryland dan Isabel Hampton Robb. Gyda Robb a Mary Adelaide Nutting, helpodd i sefydlu'r sefydliad a fyddai'n dod yn Gynghrair Nyrsio Cenedlaethol yn Unol Daleithiau America. Roedd Dock yn un o olygyddion yr American Journal of Nursing ac roedd yn awdur sawl llyfr, gan gynnwys (gydag M. Adelaide Nutting fel cyd-awdur) pedair cyfrol ar hanes nyrsio, gwaith a oedd am flynyddoedd lawer yn llawlyfr cyffuriau safonol.

Magwraeth a nyrsio[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn Harrisburg ar 26 Chwefror 1858, yn un o chwech o blant yn Harrisburg, Pennsylvania ar 26 Chwefror 1858. Derbyniodd hyfforddiant nyrsio yn Ysgol Nyrsio Ysbyty Bellevue, gan raddio yn 1886. Erbyn 1888, roedd Dock yn gweithio gyda Jane Delano mewn ysbyty yn Florida i ymosod ar bla'r dwymyn (yellow fever).[4] Roedd Delano yn nyrs ifanc; yn ddiwedarach, sefydlodd Wasanaeth Nyrsio'r Groes Goch yn America. Ysgrifennodd a chyhoeddodd Dock, gyda chymorth ei thad a'i brawd, lyfr ar feddyginiaethau therapiwtig yn 1890.[5][6]

Aeth Doc i Ysgol Nyrsio Johns Hopkins yn 1890, lle'r oedd yn uwcharolygydd cynorthwyol yr ysgol o dan Isabel Hampton Robb. Yn 1893, gyda chymorth Robb a Mary Adelaide Nutting, sefydlodd Dock Gymdeithas Uwcharolygwyr Ysgolion Hyfforddi ar gyfer Nyrsys yr Unol Daleithiau a Chanada, a ddaeth yn Gynghrair Genedlaethol Nyrsio.[4]

Ymgyrchydd[golygu | golygu cod]

Ar ôl iddi ymddeol o nyrsio, roedd ei gweithgareddau'n cynnwys aelodaeth yn y Blaid Genedlaethol y Menywod, dan arweiniad Alice Paul. Ymgyrchodd dros hawl merched i bleidleisio, sef yr hyn a alwyd yn "etholfraint" (suffrage). Arweiniodd nifer o brotestiadau, gan gynnwys picedu y tu fas i'r Tŷ Gwyn; cafodd ei harestio ar ôl ymgyrchoedd eithaf milwriaethus ym mis Mehefin 1917, Awst 1917 ac Awst 1918. Cymerodd ran yn y symudiad protest dros hawliau menywod a arweiniodd at y 19eg Newidiad i Gyfansoddiad UDA. Yn ogystal, ymgyrchodd dros ddeddfwriaeth i ganiatáu nyrsys yn hytrach na meddygon i reoli eu proffesiwn.[4]

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o'r 'Gwyliedyddion Tawel' (Silent Sentinels) am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Biography of Lavinia Lloyd Dock Archifwyd 19 August 2012[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback.. asu.edu
  2. Philips, Deborah (1999). "Healthy Heroines: Sue Barton, Lillian Wald, Lavinia Lloyd Dock and the Henry Street Settlement". Journal of American Studies 33 (1): 65–82. doi:10.1017/S0021875898006070. https://archive.org/details/sim_journal-of-american-studies_1999-04_33_1/page/65.
  3. Nodyn:Worldcat
  4. 4.0 4.1 4.2 "Lavinia Lloyd Dock 1858 - 1956". American Association for the History of Nursing, Inc. Cyrchwyd 10 Chwefror 2013.[dolen marw]
  5. Dyddiad geni: "Lavinia Dock". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  6. Dyddiad marw: "Lavinia Dock". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.