Prifddinas talaith Pennsylvania yn yr Unol Daleithiau yw Harrisburg. Saif ar lan ddwyreiniol Afon Susquehanna. Hi yw nawfed dinas fwyaf Pennsylvania; roedd y boblogaeth yn 2000 yn 48,950. Cafod ei henwi ar ôl John Harris, yr ieuengaf (1716 - 29 Gorffennaf 1791) a oedd yn berchen siop yn yr ardal.