Lashkargah
| Math | dinas, dinas fawr |
|---|---|
| Poblogaeth | 201,546 |
| Cylchfa amser | UTC+04:30 |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 773 metr |
| Cyfesurynnau | 31.593819°N 64.371611°E |
![]() | |
Dinas yn ne-orllewin Affganistan a phrifddinas daleithiol Helmand yw Lashkargah neu Lashkar Gah (Pashto: لښکرګاه, Dari: لشکرگاه). Saif ar lannau Afon Helmand, ychydig i'r de o'r briffordd sydd yn cysylltu Kandahar ac Herat. Yn hanesyddol cafodd ei galw'n Kashkari Bazaar, Kala-i Bist, neu Bost.[1]
Codwyd tref yma gan Mahmud, Swltan Ymerodraeth y Ghaznavid, yn ystod y 10g. Ysbeiliwyd y dref gan luoedd y Ghurid ym 1150, ond cafodd ei hail-adeiladu ganddynt. Dinistriwyd yn llwyr gan y Mongolwyr ym 1226. Ers hynny, codwyd nifer o wahanol amddiffynfeydd ar y safle.[1]
Yn ystod Rhyfel ISAF yn Affganistan, Lashkargah oedd canolfan y Fyddin Brydeinig wrth ymladd Ymgyrch Herrick (2002–14) yn erbyn Gwrthryfel y Taleban. Yn ystod ymgyrch ymosodol y Taleban yn 2021, cwympodd Lashkargah i'r Taleban wedi pythefnos o frwydro.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 Ludwig W. Adamec, Historical Dictionary of Afghanistan (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2003), tt. 232–3.
- ↑ (Saesneg) "Archifwyd 2023-12-04 yn y Peiriant Wayback", Sky News (17 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 21 Awst 2021.
